Cyngor Sir Ynys Môn

Rhybudd etholiad tref/cymuned: Llanbadrig (Ward Cemaes)


  1. Cynhelir etholiad i gael 1 cynghorydd cymuned ar y ward a enwir uchod.
  2. Gellir cael papurau enwebu o swyddfa y Swyddog Canlyniadau, Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor Sir, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW rhwng 10am a 4 pm neu yn electronig ar y dudalen hon.
  3. Rhaid danfon papurau enwebu i’r Swyddog Canlyniadau, Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor Sir, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW ar unrhyw ddiwrnod o’r diwrnod ar ôl cyhoeddi’r rhybudd hwn, ar ddiwrnodau’r wythnos rhwng 10am a 4pm (ac eithrio gwyliau’r banc) neu'n electronig yn unol â'r trefniadau a nodir yn y datganiad cyflenwi electronig isod ond ddim hwyrach na 4pm ar Ddydd Gwener, 17 Gorffennaf 2026.
  4. Os bydd yr etholiad yn cael ei hymladd cynhelir y bleidlais ar Ddydd Iau, 13 Awst 2026.
  5. Rhaid i geisiadau, diwygiadau neu ddiddymiadau pleidleisiau post newydd a phresennol gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor Sir,  Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW erbyn 5pm, Dydd Mercher, 29 Gorffennaf 2026.
  6. Rhaid i geisiadau i bleidleisio trwy ddirprwy yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor Sir, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW erbyn 5pm ar Ddydd Mercher, 5 Awst 2026.
  7. Rhaid i geisiadau i bleidleisio trwy ddirprwy mewn argyfwng gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor Sir, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW erbyn 5pm ar Ddydd Iau, 13 Awst 2026.
  8. Mae’n rhaid i geisiadau i gofrestru ar gyfer pleidleisio yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor Sir, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW erbyn hanner nos Dydd Mawrth 28 Gorffennaf 2026. Gellir gwneud ceisiadau ar y we

Datganiad cyflwyniadau electronig

Gellir cyflwyno enwebiadau yn unol â’r trefniadau a nodir yn y datganiad hwn.

  • Gellir cyflwyno papurau enwebu drwy’r cyfeiriad enwebiadau@ynysmon.llyw.cymru.
  • Rhaid i chi gyflwyno eich papur enwebu fel atodiad, dogfennau PDF neu Word sy’n cael eu ffafrio.
  • Byddwch yn derbyn ymateb wedi’i hawtomeiddio unwaith y bydd eich enwebiad wedi cyrraedd. 

Bydd y Swyddog Canlyniadau yn anfon hysbysiad er mwyn rhoi gwybod i ymgeiswyr o’u penderfyniad o ran a yw eu henwebiad yn ddilys. 

Pecyn enwebu - bydd y ddolen yn agor tab newydd

Dylan J Williams
Swyddog Canlyniadau

9 Gorffennaf 2026