Cyngor Sir Ynys Môn

Etholiad Seneddol y DU


Canlyniadau

Ewch i’r canlyniadau ar gyfer etholaeth Ynys Môn - bydd y ddolen yn agor tab newydd

Bydd etholiad seneddol y DU yn cael ei gynnal ddydd Iau 4 Gorffennaf 2024.  Gelwir hyn hefyd yn etholiad cyffredinol. 

Mae pleidleisio ar gyfer yr etholaeth hon wedi cau

Gwybodaeth wreiddiol

Mae'r etholiad yn rhoi cyfle i bobl ddewis eu Haelod Seneddol (AS).  Bydd AS yn cynrychioli ardal leol (etholaeth) yn Nhŷ'r Cyffredin am hyd at 5 mlynedd. 

Mae dewis o sawl ymgeisydd ym mhob etholaeth.  Rhai fydd yr ymgeiswyr lleol ar gyfer pleidiau gwleidyddol cenedlaethol. 

Bydd yr ymgeisydd sy'n cael y nifer fwyaf o bleidleisiau yn dod yn AS dros ei etholaeth. 

Ddim yn siŵr os ydych wedi cofrestru? Siaradwch â'n tîm etholiadau ar 01248 751827.

Bydd angen ID ffotograffig arnoch i bleidleisio

Darganfyddwch pa ID ffotograffig sydd ei angen arnoch chi

Gorsafoedd pleidleisio

Dewch o hyd i'ch gorsaf bleidleisio

Cofrestru i bleidleisio

Ni allwch gofrestru i bleidleisio yn yr Etholiad Seneddol y DU ar 4 Gorffennaf 2024 rhagor. Dim ond os ydych eisoes wedi cofrestru i bleidleisio y gallwch bleidleisio.

Gwneud cais am bleidlais bost

Ni allwch wneud cais am bleidlais drwy’r post yn yr etholiad hwn rhagor.

Gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy

Ni allwch wneud cais am bleidlais drwy’r ddirpwy yn yr etholiad hwn rhagor.

Tystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr 

Ni allwch wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr  yn yr etholiad hwn rhagor.

Dogfen

Fformatau eraill
Efallai na fydd y fformatau eraill yma'n hygyrch
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.