Cyngor Sir Ynys Môn

Canfas blynyddol 2025


Er mwyn i’r gofrestr etholiadol gael ei diweddaru a’i gwirio rydym yn cynnal canfasio blynyddol sef ymgyrch cofrestru pleidleiswyr.

Os ydych wedi rhoi eich cyfeiriad e-bost i ni, byddwn yn gofyn i chi wirio a chadarnhau a yw manylion eich cartref ar y gofrestr etholiadol yn gywir.

Rydym yn gwneud hyn bob blwyddyn i sicrhau bod pawb sy’n gymwys i bleidleisio yn ein hardal wedi cofrestru.

I sicrhau eich bod yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiadau sydd i ddod, cwblhewch y ffurflen ar-lein yn ôl y cyfarwyddiadau yn eich e-bost.

Ffurflen ymateb pleidleisiwr - linc yn agor mewn tab newydd - bydd y ddolen yn agor tab newydd

Os hoffech ragor o wybodaeth am y gofrestr etholiadol, ffoniwch ni ar 01248 752548 neu anfonwch e-bost i etholiadau@ynysmon.llyw.cymru.