Gallwch gofrestru i bleidleisio ar-lein neu drwy’r post.
Os ydych wedi cofrestru, nid oes rhaid cofrestru bob blwyddyn er mwyn i’ch enw fod ar y gofrestr.
Rydym yn ysgrifennu i bob eiddo yn gofyn i chi gadarnhau a yw’r manylion sydd gennym ar gyfer eich eiddo ar y gofrestr etholiadol yn gywir.
Os ydych yn dymuno cofrestru i bleidleisio ar-lein ewch i www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio os gwelwch yn dda
Byddwch angen eich rhif Yswiriant Gwladol a’ch dyddiad geni er mwyn cofrestru.
Os nad oeddech wedi eich cofrestru o’r blaen, gallwch gofrestru dan y system newydd yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio neu drwy ffonio’r Swyddfa Etholiadau ar 01248 752548.
Os byddwch yn ymgeisio ar-lein, anfonir eich cais at y Swyddfa Etholiadau. Byddant yn anfon llythyr i gydnabod eich cais ar ôl iddynt ei dderbyn.
Os hoffech ymgeisio drwy’r post, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda’r Swyddfa Etholiadau ar 01248 752548 a byddant yn anfon Ffurflen Cofrestru Etholiadol Unigol atoch.
Pan fyddwch wedi cwblhau ac arwyddo’r ffurflen gais dychwelwch hi i:
Swyddfa Gwasanaethau Etholiadol
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
LL77 7TW
Pwy sy'n cael cofrestru i bleidleisio?
Gallwch gofrestru i bleidleisio os ydych:
- preswylio (yn byw fel arfer) yng Nghymru ac yn 14 oed neu drosodd (ond ni fyddwch yn gallu pleidleisio mewn etholiadau cynghorau lleol (cyn mis Mai 2022) nac yn etholiadau'r Senedd nes eich bod yn 16 oed. Ni fyddwch yn gallu pleidleisio yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu nes eich bod yn 18 oed) - darganfod mwy
- yn ddinesydd y Deyrnas Unedig, Gweriniaeth Iwerddon neu’r Gymanwlad
- yn ddinesydd un o wledydd yr Undeb Ewropeaidd yn byw yn y Deyrnas Unedig
- yn ddinesydd Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Diriogaeth Tramor Prydeinig yn byw yn y Deyrnas Unedig