Ymgynghoriad ar gynigion drafft 1 Hydref i 26 Tachwedd 2026
Yn dilyn yr ymgynghoriad cychwynnol, a gynhaliwyd rhwng 26 Ionawr a 13 Mawrth 2026, rydym yn gwahodd sylwadau ar y cynigion drafft ar gyfer trefniadau etholiadol cynghorau tref a chymuned.
Mae'r cynigion drafft wedi'u datblygu ar sail yr adborth a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad cychwynnol, ynghyd ag ymchwil a dadansoddiad pellach.
Hoffem gael eich barn ar:
- y newidiadau i wardiau etholiadol a nodir yn y ddogfen ymgynghori
- enwau wardiau
- enwau cymunedau
Byddwn yn cysylltu'n uniongyrchol â'r ymgyngoreion statudol, gan gynnwys cynghorau tref a chymuned. Gall unrhyw un sydd â diddordeb yn yr adolygiad, gan gynnwys etholwyr Ynys Môn, gyflwyno sylwadau.
Y Gymraeg
Yn unol â Safonau'r Gymraeg, hoffem gael eich barn am effaith bosibl y cynigion drafft ar y Gymraeg.
Hoffem wybod:
- a fydd y cynigion yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg
- a fydd y cynigion yn sicrhau na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg
- sut y gellid gwella'r cynigion er mwyn cael effaith fwy cadarnhaol ar y Gymraeg
- sut y gellid lleihau neu osgoi unrhyw effeithiau negyddol ar y Gymraeg
Dweud eich dweud
E-bostiwch: gwasanaethaudemocrataidd@ynysmon.llyw.cymru
Neu ysgrifennwch atom yn:
Gwasanaethau Democrataidd
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
LL77 7TW
Cynigion drafft
Mae'r ddogfen isod yn amlinellu'r cynigion drafft. Mae'r newidiadau arfaethedig i wardiau etholiadol cynghorau tref a chymuned wedi'u hamlygu yn y ddogfen.
Efallai na fydd y ffeil yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at
digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.