Cyngor Sir Ynys Môn

Arolygon cymunedol


Mae dyletswydd statudol ar Gyngor Sir Ynys Môn, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, i fonitro’r cymunedau o fewn y sir a threfniadau etholiadol y cymunedau hynny, a chynnal arolygon pan fo’n briodol. 

Wrth gyflawni ei ddyletswyddau ac wrth gynnal unrhyw adolygiad, rhaid i’r cyngor geisio sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. 

Ynglŷn â chymunedau

At ddibenion yr arolygon hyn, uned llywodraeth leol islaw lefel cyngor sir (y ‘prif gyngor’) yw cymuned.

Mae Ynys Môn wedi ei rhannu’n 40 cymuned, gyda chyngor tref neu gyngor cymuned yn gwasanaethu pob un.  Yn y cyd-destun hwn yr un yw statws cyfreithiol y cynghorau beth bynnag y’i gelwir, hynny yw, maent i gyd yn cael eu hystyried yn ‘gynghorau cymuned’.

Gall cymunedau yn eu tro gael eu rhannu’n wardiau at ddibenion etholiadol ond nid yw hyn yn anorfod, ac nid yw pob ardal cyngor cymuned wedi eu rhannu’n wardiau. 

Mae dau fath o arolwg y gall y Cyngor Sir eu cynnal o dan y Ddeddf, sef arolwg o ffiniau cymunedol (adran 25) ac arolwg o’r trefniadau etholiadol (adran 31).

Arolwg cymunedol o’r trefniadau etholiadol 2026: cylch gorchwyl

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi penderfynu adolygu trefniadau etholiadol cymunedol yr Ynys yn ystod 2026.  Nod yr adolygiad ydi sicrhau bod y trefniadau etholiadol ar gyfer pob cyngor tref a chymuned yn darparu llywodraeth leol effeithiol.

Mae hyn yn golygu edrych ar y trefniadau ar gyfer cynrychiolaeth ar y cyngor cymuned o fewn cymuned. Wrth gynnal yr arolwg bydd y cyngor yn ystyried:

  • nifer yr aelodau ar y cyngor cymuned
  • rhannu’n wardiau (os yw’n briodol) at ddibenion ethol cynghorwyr
  • nifer a ffiniau unrhyw wardiau
  • nifer yr aelodau sydd i’w hethol ar gyfer unrhyw ward
  • enw unrhyw ward

Cynhelir yr adolygiad yn unol ag adran 31 Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013.

Mae’n arfer da cynnal yr adolygiad cyn etholiadau lleol 2027 fel bod unrhyw argymhellion yn weithredol erbyn hynny. Disgwylir hefyd i’r cyngor gynnal yr adolygiad cyn i’r Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru gynnal arolwg etholiadol o’r cyngor sydd wedi ei gynllunio ar gyfer 2027/28.

Restr o ymgynghoreion statudol y bydd y cyngor yn cysylltu â nhw yn ystod yr arolwg

  • Cynghorau tref a chymuned Ynys Môn.
  • Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.
  • Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru.

Amserlen

Mae 4 cam statudol i’r arolwg a byddwn yn dilyn yr amserlen ganlynol:

Cam 1: cyhoeddusrwydd cychwynnol
  • Cysylltu gyda chynghorau tref a chymuned ac ymgynghoreion eraill i godi ymwybyddiaeth am yr arolwg
  • Cyhoeddi gwybodaeth ar wefan y cyngor 
Cam 2: ymchwiliad ac ymgynghoriad cychwynnol 
  • Ymgynghoriad cychwynnol yn dechrau ar 26 Ionawr tan 13 Mawrth
  • Ystyried sylwadau ac ymchwilio pellach yn ystod Ebrill i Gorffennaf
Cam 3: cynigion drafft ac ymgynghori ar y cynigion hynny
  • Cymeradwyo cynigion drafft yn y cyngor ym mis Medi
  • Ymgynghori ar y cynigion drafft am 6 wythnos rhwng Medi a Tachwedd
Cam 4: argymhellion terfynol
  • Cyflwyno argymhellion terfynol i’r cyngor ym mis Rhagfyr 2026.
  • Dod i rym erbyn etholiadau lleol Mai 2027.

Ymgynghoriad cychwynnol: 26 Ionawr i 13 Mawrth 2026

Rydym yn croesawu barn a sylwadau ar drefniadau etholiadol cyfredol cynghorau cymuned. Byddwn yn ysgrifennu yn uniongyrchol at yr ymgynghoreion statudol, ond mae modd i unrhyw un gan gynnwys etholwyr Ynys Môn gysylltu gyda ni ar y cam cychwynnol hwn. 

Yn benodol hoffem farn a sylwadau ar:

  • nifer yr aelodau ar y cyngor cymuned
  • rhannu’r gymuned yn wardiau at ddibenion ethol cynghorwyr
  • nifer a ffiniau unrhyw wardiau
  • nifer yr aelodau sydd i’w hethol ar gyfer unrhyw ward
  • enw unrhyw ward

Dweud eich dweud

Gellir cyflwyno sylwadau drwy gysylltu gyda ni ym gwasanaethaudemocrataidd@ynysmon.llyw.cymru neu drwy ysgrifennu atom ni yn:

Gwasanaethau Democrataidd
Cyngor Sir Ynys Mon
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
LL77 7TW

Gwybodaeth am gymunedau / wardiau

Mae gwybodaeth am sefyllfa gyfredol y cymunedau, gan gynnwys wardiau, nifer y cynghorwyr a’r etholwyr, ar gael ar y dudalen hon.

Efallai na fydd y ffeil yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.

Gellir gweld map yn cynnwys ffiniau cymunedau a wardiau etholiadol drwy ddefnyddio MapMôn.

Ewch i MapMôn