O 1 Ionawr, 2005 ddaeth Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (DRhG) a’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (RhGA) i rym. Mae’r rhain yn rhoi i unigolion a sefydliadau hawl gyfreithiol gyffredinol i gael mynediad i wybodaeth y mae’r cyngor yn ei chadw.
Mae llawer o wybodaeth ar gael yn barod ac mae llawer ohono ar ein gwefan.
Os na fedrwch ddod o hyd i’r hyn yr ydych yn chwilio amdano, ysgrifennwch at y cyfeiriad a ddangosi neu gysylltu gyda foi@ynysmon.llyw.cymru
Wrth ofyn neu gyflwyno cais am wybodaeth nodwch, mewn ysgrifen y manylion a ganlyn os gwelwch yn dda:-
- eich enw a’ch cyfeiriad
- rhif ffôn yn ystod y dydd, e-bost
- y wybodaeth neu’r dogfennau y mae arnoch eu hangen. Gofynnir i chi ddarparu disgrifiad llawn o’r wybodaeth a hefyd bod mor benodol â phosib.
- ym mha fodd neu ddull yr hoffech gael y wybodaeth, un ai copi papur neu e-bost etc
O bosib bydd y tab “Gwasanaethau” yn ddefnyddiol o ran adnabod yr holl wasanaethau mae’r cyngor yn darparu.
Os gwneir cais, mae rhaid cael eich hysbysu:
- os mae’r wybodaeth gan y cyngor; ac
- os oes ganddi (ac nid yw’n eithriedig), mae rhaid i’r wybodaeth gael ei rhoi i chi o fewn ugain niwrnod gwaith