Byddwch yn ymwybodol, os gwelwch yn dda, y gall y Cyngor gymryd fwy o amser nag arfer i ymateb i lythyrau neu gwynion, o ganlyniad i brinder staff ac ymateb y Cyngor i Covid-19.
Diolch i chi am eich dealltwriaeth.
Rhaid gyflwyno ceisiadau am wybodaeth tryw'r post i’r Swyddog Gwybodaeth Corfforaethol (Adain Gyfreithiol foi@ynysmon.gov.uk).
Neu gellir danfon eich cais drwy gofrestru gyda'r porth ar-lein a ddefnyddio ein ffurflen arlinell.
Sut mae cofrestru ar y porth ar-lein?
Bydd angen i chi ddefnyddio cyfeiriad e-bost i greu cyfrif diogel i gofrestru gyda Fy Nghyfrif. Bydd angen i chi hefyd gytuno gyda’n telerau ac amodau, sy’n rhoi caniatâd i ddal a defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn unol â’n polisïau preifatrwydd a diogelu data.
Nodyn pwysig: Wrth gofrestru i ddefnyddio’r porth am y tro cyntaf, gofynnir i chi fynd i’ch cyfrif e-bost, agor yr e-bost y byddwn ni wedi’i anfon atoch chi a chlicio ar y ddolen i actifadu’ch cyfrif. Ni fyddwch yn gallu mewngofnodi i borth Fy Nghyfrif neu ddefnyddio’r ffurflenni heb actifadu’ch cyfrif o’r ddolen yn yr e-bost.
Os nad ydych chi’n meddwl eich bod wedi derbyn e-bost, edrychwch yn eich ffolder Spam. Gallwn wirio a gweithredu’r cyfrif os oes angen, rhowch wybod i ni os yw hyn yn rhywbeth yr ydych am i ni ei wneud.
Cyflwyno cais
Wrth ofyn neu gyflwyno cais am wybodaeth nodwch y manylion a ganlyn os gwelwch yn dda:-
- eich enw a’ch cyfeiriad
- rhif ffôn yn ystod y dydd, ebost
- y wybodaeth neu’r dogfennau y mae arnoch eu hangen
- os mae’r gwybodaeth yn y Cynllun Cyhoeddi dyfynnwch rif cyfeirnod y cyhoeddiad os gwelwch yn dda
- ym mha fodd neu ddull yr hoffech gael y wybodaeth, un ai copi papur neu e-bost etc
- os dangosir codiad yn erbyn cyhoeddiad amgaewch eich taliad, os gwelwch yn dda, gydag eich cais
Os gwneir cais, mae rhaid cael eich hysbysu:
- os mae’r wybodaeth gan y cyngor
- os oes ganddi (ac nid yw’n eithriedig), mae rhaid i’r wybodaeth gael ei rhoi i chi o fewn ugain niwrnod gwaith