Cyngor Sir Ynys Môn

Cynllunio lle


Mae’r cyngor wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Medrwn Môn ar y model Cynllunio Lle ers 2019.  

Mae Cynllunio Lle yn ddull mapio seiliedig ar asedau i nodi’r blaenoriaethau o fewn pob ward ac unrhyw flaenoriaethau cyffredin ar draws yr Ynys.

Yn ogystal, mae’r model Cynllunio Lle yn ddull ymgysylltu sy’n gynnig trosolwg clir a chynhwysfawr o gymunedau mewn ardal ddaearyddol. Mae’n ffordd i’r rheiny sy’n dymuno ymgynghori â chymunedau wneud hynny, ac mae’n ddull defnyddiol i sicrhau bod datblygiadau o fewn gwasanaethau yn y dyfodol  a gwariant cyhoeddus yn cyd-fynd â’r anghenion sy’n cael eu hadnabod, gan dynnu sylw at y tebygrwydd a’r cysylltiadau rhwng gwasanaethau allweddol megis y gwasanaethau cymdeithasol a thrafnidiaeth gyhoeddus, neu wasanaethau hamdden a’r amgylchedd.

O ganlyniad i Gynllunio Lle, mae 8 Cynghrair Cymunedol gweithredol ar yr Ynys ar hyn o bryd. Mae Cynghreiriau yn dwyn ynghyd grwpiau cymunedol, unigolion, gwirfoddolwyr, cynghorau tref a chymunedau, busnesau lleol ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn cydweithio er mwyn gwneud yr ardaloedd lle maen nhw’n byw a gweithio yn fwy annibynnol a gwydn.

Mae blaenoriaethau yn cael eu nodi a'u gweithio gan gynghrair gymunedol. Mae pob cynghrair yn cael swm bach o gyllid sbarduno i greu prosiectau tasgau a gorffen h.y. cynlluniau trafnidiaeth gymunedol fach, gweithgareddau lleol neu adnewyddu canolfannau cymunedol ar raddfa fach.

Ar hyn o bryd mae cynghreiriau wedi eu sefydlu yn wardiau Seiriol, Aethwy, Bodowyr, Crigyll, Bro Aberffraw, Bro’r Llynnoedd, Caergybi, a Lligwy.

Cynllunio Lle Ynys Môn (linc yn agor mewn tab newydd) - bydd y ddolen yn agor tab newydd