Dyma ein cynllun cydraddoldeb strategol ar gyfer 2024 i 2028. Mae’r cyhoeddiad pwysig hwn yn adeiladu ar ein cynlluniau blaenorol ac gosod ein huchelgais i greu cymdeithas decach i bobl Ynys Môn. Mae’r cynllun yn esbonio:
- sut mae’n cyfrannu at weledigaeth Cynllun y Cyngor o greu Ynys Môn iach a llewyrchus lle gall pobl ffynnu
- ein hwyth amcan cydraddoldeb hirdymor ar gyfer creu Ynys Môn decach drwy hyrwyddo cydraddoldeb yn ein cymunedau, yn ogystal ag yn ein sefydliad
- ein prif flaenoriaethau cydraddoldeb ar gyfer y pedair blynedd nesaf
- ein trefniadau ar gyfer monitro cynnydd tuag at gyflawni ein hamcanion cydraddoldeb
Caiff y cynllun ei gyhoeddi a’i weithredu fel rhan o ofynion Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011.