Cyngor Sir Ynys Môn

Cyn Gadeirydd y cyngor 2025 i 2026


 Y Cynghorydd Non Dafydd / Councillor Non Dafydd

Cafodd y Cynghorydd Non Dafydd wedi ei ethol fel Cadeirydd Cyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2025 i 2026.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Hoffwn ddechrau drwy edrych yn ôl dros yr haf a llongyfarch trefnwyr Sioe Môn ar sioe arall lwyddiannus eleni a llongyfarch yr holl gystadleuwyr o’r Ynys a fu’n llwyddiannus yn y Sioe Genedlaethol, Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol.

Llongyfarchiadau hefyd i’r unigolion hynny o Fôn a gafodd eu hurddo i’r Orsedd yn Eisteddfod Wrecsam eleni, gan gynnwys Hywel Wyn Owen, Mared Lewis, Gwyn Anwyl, Rhun ap Iorwerth Nia Wyn Jones. Hefyd llongyfarchiadau i Erin Fflur am ennill gwobr goffa David Ellis, y Rhuban Glas.

Yn ail, hoffwn ddymuno llongyfarchiadau mawr i blant a phobl ifanc yr Ynys ar eu llwyddiant gyda chanlyniadau TGAU, Lefel A, a chymwysterau lefel 2 a 3 eraill dros yr haf. Dymuniadau gorau i’r bobl ifanc hynny fydd yn gadael eu cartrefi am brifysgolion a cholegau ar hyd a lled Cymru a thu hwnt. Dwi’n siŵr roedd nifer o rieni emosiynol iawn ar yr Ynys dros y dyddiau diwethaf!

Mae’r Cyngor yn Rhiant Corfforaethol a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch ein Plant sy'n Derbyn Gofal ar eu llwyddiannau yn eu TGAU a chyraeddiadau eraill yn ddiweddar. Rydym hefyd wrth gwrs yn ddiolchgar i’r holl staff, athrawon, rhieni a rhieni maeth sydd wedi cefnogi’r bobl ifanc drwy eu harholiadau.

Mae Cyngor Sir wedi llwyddo i benodi pedwar o raddedigion drwy’r cynllun Dyfodol Môn yn ddiweddar. Mae’r cynllun yn rhoi cyfle i raddedigion lleol gael profiad gwaith gwerthfawr tra’n astudio tuag at gymhwyster ôl-raddedig. Nid yn unig mae’r cynllun yn cefnogi’r graddedigion i ddatblygu eu sgiliau a meithrin gyrfaoedd gyda’r Cyngor, ond mae hefyd yn helpu i gynllunio olyniaeth ar gyfer y dyfodol. Pob dymuniad da iddyn nhw ar ddechrau eu gyrfa gyda’r Cyngor.

Cynhaliwyd Gŵyl Groeso yr Urdd yn Llangefni y penwythnos diwethaf. Roedd yn ddigwyddiad llwyddiannus iawn er gwaethaf y tywydd ac edrychwn ymlaen at groesawu’r Eisteddfod i Ynys Mon yn 2026.

Roedd y gyfres deledu boblogaidd Rownd a Rownd yn dathlu 30 mlynedd ers ei ddarllediad cyntaf yn gynharach ym mis Medi. Mae’r gyfres sydd wedi ei leoli ym Mhorthaethwy wedi denu buddsoddiad ariannol sylweddol i’r ardal dros y blynyddoedd ac mae dros 100 o bobl bellach yn gweithio ar y gyfres.

Llongyfarchiadau i rai o fusnesau yr Ynys sydd wedi ennill gwobrau yn ddiweddar. Enillodd Bragdy Cybi a chwmni cynhyrchu mêl Anglesey Bees sêr yn y Great Taste Awards, ac enillodd Distyllfa Llanfairpwll wobr cynhyrchydd diod bach gorau yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru.

Hoffwn ddiolch ar ran y Cyngor Sir i’r Gwasanaeth Tan am eu gwaith yn rheoli a diffodd tan ar Fynydd Bodafon dros yr haf. Ar un adeg roedd y tan yn 1,500 metr sgwâr. Rydym yn ddiolchgar iawn na chafodd unrhyw un eu hanafu yn ystod y digwyddiad.

Yn gynharach mis yma, cynhaliwyd digwyddiad arbennig, gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol, i ddathlu taith y Cyngor Sir tuag at ddod yn Ynys sy’n wybodus am drawma. Un o’r uchafbwyntiau oedd enwi Ysgol Gyfun Llangefni fel yr ysgol uwchradd prif lif gyntaf yn y Deyrnas Unedig i dderbyn y wobr Ysgol sy’n Wybodus am Drawma ac Iechyd Meddwl gan gorff Trauma Informed Schools UK. Diolch i bawb am eu hymroddiad i’r daith hanfodol yma er mwyn sicrhau fod ein Cyngor a’n Hynys yn wybodus am drawma.

Ar 15fed Awst, fe wnaeth y Cyngor Sir ynghyd a swyddogion o RAF Y Fali, goffau 80 mlynedd ers VJ Day gyda seremoni codi baneri tu allan i swyddfa’r Cyngor yn Llangefni. Fe wnaeth nifer hefyd fynychu digwyddiad coffa wedi ei drefnu gan y Cynghorydd Aled Morris Jones yn Mynydd Parys gyda’r nos. Roedd y ddau ddigwyddiad, ynghyd a’r coffau VE Day ym mis Mai, yn gyfle i ni gofio am y genhedlaeth a wnaeth aberthu cymaint fel ein bod ni’n gallu mwynhau ein rhyddid heddiw.

Yn olaf, roedd yn drist iawn clywed am farwolaeth y cyn gynghorydd sir, Derlwyn Hughes. Hoffwn estyn ein cydymdeimlad dwysaf i’w deulu a’i ffrindiau.

Yn unol â’r drefn arferol, rydym fel Cyngor yn dymuno cydymdeimlo gydag unrhyw aelod etholedig neu aelod o staff sydd wedi cael profedigaeth yn ddiweddar. Gofynnaf felly i’r rhai sy’n bresennol yn y Siambr, ac sy’n abl i wneud, i sefyll os gwelwch yn dda am funud o dawelwch i ddangos parch.

Hoffwn ddechrau drwy longyfarch pawb gafodd eu hanrhydeddu yng Ngwobrau Mon Actif a gynhaliwyd yng Nghanolfan Biwmares ym mis Hydref. Maent i gyd yn glod i'r Ynys. Roedd y digwyddiad yn uchafbwynt blwyddyn brysur i Mon Actif wrth i niferoedd uchel gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ledled yr ynys.

Dymuniadau gorau i Glwb Henoed Bodffordd ar gyrraedd carreg filltir nodedig yn ddiweddar gan eu bod wedi dathlu penblwydd yn 50 oed ers eu sefydlu. Mae’r Clwb wedi parhau drwy gydol y cyfnod o dan arweiniad medrus Ellis Wyn.

Llongyfarchiadau hefyd i Jac Hughes, un o ddefnyddwyr yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol fydd yn ymddangos ar raglen deledu “Y Cyfweliad” yn y flwyddyn newydd. Mae Jac yn adnabyddus i bawb sydd wedi mynychu y Fforwm Anabledd Dysgu am ei gyfraniadau treiddgar.

Hoffwn longyfarch y Tîm Cymunedol o fewn ein Gwasanaethau Tai am ennill gwobr genedlaethol yng Ngwobrau Cymunedol Mwy Diogel Cymru 2025 a hynny yn y categori Cydraddoldeb, Cynhwysiant a Chydlyniant. Mae ennill y wobr hon yn gamp aruthrol ac yn dyst i’r gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud gan y staff, gwirfoddolwyr a phartneriaid sydd y tu ôl i Hwb Cymunedol Amrywiol Môn. Mae eu hymrwymiad i gynhwysiant, diogelwch a llesiant cymunedol yn adlewyrchu’r gorau o’n hynys.

Llongyfarchiadau i Elen Gwen Williams sydd bellach yn byw ar Ynys Mon ar ennill gwobr goffa Dai Jones am ei phrosiect “Calon Cefn Gwlad”. Cafodd ei gwaith ei ganmol am ei ffocws ar gymuned a threftadaeth amaethyddol Cymru.

Cynhaliwyd gwobrau twristiaeth gogledd Cymru yn Llandudno yn ddiweddar ac roedd yn braf gweld cymaint o fusnes o Ynys Mon yn cael llwyddiant, gan gynnwys Chateau Rhianfa, y Ribride, a Distyllfa Llanfairpwll. Anrhydeddwyd Cyngor Tref Caergybi hefyd am eu gwaith arbennig yn croesawu ymwelwyr teithiau llongau i’r dref.

Llongyfarchiadau i Aelodau Ffermwyr Ifanc yr Ynys am eu llwyddiant yn Eisteddfod CFfi Cymru yn Sir Drefaldwyn ym mis Tachwedd. Braf cael cynrychiolaeth gref o Ynys Môn yn ein rhoi ni ar y map unwaith eto.

Llongyfarchiadau i Kenan Davies-Zorlu o Gaergybi y myfyriwr Peirianneg o Goleg Menai sydd wedi cael ei gydnabod yn genedlaethol am ei gynnydd rhagorol mewn mathemateg.

Llongyfarchiadau, i Steffan Lloyd Owen am ennill un o gystadlaethau Opera mwyaf yn y byd, ym Mharis yn ddiweddar.

Llongyfarchiadau i Cari Hughes (Clwb Menai Track & Field) a enillodd Liverpool Cross Challenge 2025 - Ras 8km trawsgwlad mewn amser o 27 munud 17 eiliad - ym mis Tachwedd.

Llongyfarchiadau i Mrs Susan Jones, Tregarnedd, Star, Llanfairpwll am cael ei hethol dydd Sadwrn 6ed o Ragfyr, yn lywydd etholedig cymdeithas brenhinol amaethyddol cymru, 2027. Llongyfarchiadau hefyd i Undeb Amaethwyr Cymru sy’n dathlu 70 mlynedd ers sefydlu yn 1955.

Llongyfarchiadau i Ganolfan Hen Ysgol Bodorgan ar dderbyn cydnabyddiaeth yn ddiweddar am eu gwasanaeth gwirfoddol.

Yn olaf, ac ar nodyn trist iawn hoffwn gymryd y cyfle yma i dalu teyrnged twymgalon iawn i’r cynghorydd Trefor Lloyd Hughes a fu farw’n ddiweddar yn dilyn cyfnod o salwch. Rydym fel cyngor yn cydymdeimlo’n ddwys gyda Janet ei wraig a’r teulu i gyd yn y cyfnod trist yma.

Cyn cymryd munud o dawelwch, dwi’n ymwybodol bod aelodau eraill yn dymuno talu teyrnged i Trefor. (Cyfle i aelodau dalu teyrnged).

Gawn ni godi felly am funud o dawelwch os gwelwch yn dda er mwyn dangos ein parch tuag at y cyn gynghorydd Trefor Lloyd Hughes, ei deulu a ffrindiau. Yn yr un modd, rydym yn dymuno cydymdeimlo gydag unrhyw aelod etholedig neu aelod o staff sydd wedi cael profedigaeth yn ddiweddar. Gofynnaf felly i’r rhai sy’n bresennol yn y Siambr, ac sy’n abl i wneud, i sefyll os gwelwch yn dda.

Hoffwn ddechrau drwy longyfarch pawb fu’n trefnu gorymdeithiau a dathliadau eraill i nodi dydd gŵyl Dewi dros y penwythnos. Cefais y fraint o arwain gorymdaith Llangefni ac roedd yn wych gweld cymaint wedi troi allan.

Ym mis Ionawr, dathlwyd 200 mlynedd ers i Bont y Borth agor am y tro cyntaf. Roedd cynllun Thomas Telford yn uchelgeisiol iawn, a dyma oedd y bont grog fwyaf yn y byd ar y pryd. Cafodd cofeb ei dadorchuddio ym Mhorthaethwy i nodi'r garreg filltir arbennig yma.

Llongyfarchiadau i Dion Wyn Jones yn wreiddiol o Ynys Mon ar ennill gwobr Cogydd Cenedlaethol Cymru 2026 mewn cystadleuaeth yng Nghasnewydd yn ddiweddar. Mae Dion hefyd wedi cynrychioli Cymru mewn nifer o gystadlaethau dros y blynyddoedd ac yn amlwg mae dyfodol disglair o’i flaen.

Llongyfarchiadau i Glwb Gymnasteg Ynys Mon ar dderbyn clod yng ngwobrau gymnasteg Prydain yn y categori chwaraeon diogel. Derbyniodd y clwb ganmoliaeth am ei waith yn diogelu plant a’u cadw’n saff.

Llongyfarchiadau i Isabel o Ysgol Cemaes am gynllunio bathodyn i fynd i’r gofod ar un o deithiau asiantaeth ofod NASA. Mae cyswllt arbennig rhwng yr ysgol a NASA gan fod un o’u cyn-ddisgyblion, Dr Melanie Coathup yn gweithio i’r asiantaeth.

Hoffwn gydnabod gwaith cymunedol arbennig Liz Mangan o Westy’r Holland, Llanfachraeth. Bu Liz yn brysur yn rhoi bag o lysiau i bawb yn y pentref cyn y Nadolig.

Llongyfarchiadau i drefnwyr Hanner Marathon Mon ac i’r holl redwyr a gymerodd ran eleni. Symudodd y ras i faes Sioe Mon ar gyfer 2026 ac roedd yn ddigwyddiad llwyddiannus iawn.

Llongyfarchiadau i Jenna Seddon, Rhosneigr ar orffen yn drydydd yn ras “Ultra” 50 milltir Caer mewn 8 awr a 38 munud. Dipyn o gamp!

Cynhaliwyd noson wobrwyo busnes Mon CF ar 25 Chwefror. Llongyfarchiadau i bawb ar noson lwyddiannus ac i’r busnesau a enillodd wobrau i gydnabod eu gwaith caled.

Pob dymuniad da i Fand Ieuenctid Beaumaris ar eu taith i Linz yn Awstria i gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaeth Bandiau Pres Ieuenctid Ewrop. Profiad gwych i’r bobl ifanc.

Yn olaf, cawsom gyfle i nodi diwrnod cenedlaethol cofio’r holocost yn y Cyngor ar 27 Ionawr. Cynhaliwyd seremoni fer y tu allan i brif fynedfa’r Cyngor lle cafodd y swyddfa ei goleuo’n borffor. Roedd y digwyddiad yn ein hatgoffa o bwysigrwydd cofio gwersi’r gorffennol yn y byd sydd ohoni heddiw.

Hoffwn gymryd y cyfle wrth gloi, i gydymdeimlo gydag unrhyw aelod etholedig neu aelod o staff sydd wedi cael profedigaeth yn ddiweddar.  Gofynnaf felly i’r rhai sy’n bresennol yn y Siambr, ac sy’n abl i wneud, i sefyll os gwelwch yn dda am funud o dawelwch.

Gyda Eisteddfod yr Urdd Mon 2026 yn cychwyn mewn llai na pythefnos, hoffwn gychwyn drwy ddiolch i’r holl wirfoddolwyr ledled yr Ynys sydd wedi bod yn brysur yn codi arian ac yn gwneud trefniadau ar gyfer croesawu’r ŵyl.

Hoffwn ddymuno’n dda hefyd i’r holl blant a phobl ifanc fydd yn cystadlu yn ystod yr wythnos.

Llongyfarchiadau i Derek Evans, Llannerch-y-medd, ar gael ei anrhydeddu gan yr Urdd drwy ennill Tlws John a Ceridwen Hughes. Caiff y tlws ei wobrwyo gan yr Urdd yn flynyddol i wirfoddolwyr arbennig sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru. Bydd seremoni arbennig ar ei gyfer yn Eisteddfod yr Urdd Mon diwedd y mis.

Hoffwn ddymuno’n dda hefyd i bawb o’r Ynys fydd yn cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Benfro ym mis Awst, a llongyfarch Malachy Owain Edwards, Llanfairpwll a fydd yn cael ei anrhydeddu gyda’r Wisg Werdd yn yr Eisteddfod eleni. Fel un o brif leisiau'r gymuned Gymraeg Ddu, mae Malachy yn dylanwadu'n sylweddol ar newid canfyddiadau ac yn ysbrydoliaeth i ddysgwyr Cymraeg o bob cefndir.

Troi at y byd amaeth nesaf ac hoffwn gymryd y cyfle i ddymuno’n dda i bawb o’r Ynys fydd yn cymryd rhan yn y Sioe Frenhinol eleni. Ynys Mon fydd yn cael y fraint o fod yn Sir nawdd i’r Sioe yn 2027 felly bydd yn flwyddyn brysur i’n cymunedau amaethyddol.

Rydym fel Cyngor yn llongyfarch RAF y Fali hefyd ar ddathlu 85 mlynedd ers ei sefydlu yn ddiweddar. Nodwyd y dathliadau gyda ymweliad gan y Tywysog William a fu’n hyfforddi ac yn gweithio yn yr orsaf am gyfnod. Edrychwn ymlaen fel Cyngor at barhau i gydweithio gyda’r orsaf yn y Fali dros y blynyddoedd i ddod.

Gyda chyfnod arholiadau yn prysur agosáu hoffwn gymryd y cyfle i ddymuno’n dda i bawb fydd yn eistedd arholiadau TGAU, Lefel A ac unrhyw gymwysterau eraill. Mae’r Cyngor yn Rhiant Corfforaethol, a dymuniadau arbennig hefyd i’r bobl ifanc hynny sy'n derbyn gofal ar eu arholiadau dros yr wythnosau nesaf.

Llongyfarchiadau i Ellie Corcoran o Ynys Mon a enillodd teitl Miss Wales 2026 yn ddiweddar. Mae Ellie yn gwirfoddoli gyda Gyrfa Cymru ac yn cynorthwyo pobl ifanc. Mae hi hefyd wedi codi mwy na £40,000 ar gyfer elusennau amrywiol.

Llongyfarchiadau i wasanaeth Môn Actif ar lwyddiant cenedlaethol ar ôl derbyn gwobr ‘Building Belonging’ yng Ngwobrau Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid 2026. Mae’r wobr yn cydnabod sefydliadau sy’n creu amgylchedd gynhwysol, ac mae Môn Actif wedi ei anrhydeddu am ei waith helaeth ledled yr ynys yn sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc, waeth beth yw eu cefndir yn gallu meithrin hyder drwy chwaraeon a gweithgareddau corfforol.

Llongyfarchiadau mawr i 101 o bobl ifanc blwyddyn 10 o Ysgolion Uwchradd yr Ynys sydd wedi llwyddo i gwblhau taith efydd Gwobr Dug Caeredin, dros 2 ddiwrnod yn ystod gwyliau’r Pasg. Diolch arbennig i’r Gwasanaeth Ieuenctid am gydlynu ac arwain y teithiau yn ogystal a chefnogaeth gan y tîm awyr agored yn yr Urdd. Er mwyn cyflawni’r achrediad, fe wnaeth y bobl ifanc gerdded 6 awr bob dydd gyda bagiau cerdded trwm, gwersylla noson a pharatoi eu bwyd eu hunain. Mae gwasanaeth Ieuenctid Ynys Mon yn parhau i fod efo’r nifer uchaf o bobl ifanc yn cyflawni achrediadau Gwobr Dug Caeredin yng Nghymru.

Bu nifer o staff y Cyngor yn brysur yn rhan o drefniadau cynnal etholiad Senedd Cymru yr wythnos diwethaf yn etholaeth Bangor Conwy Mon. Hoffwn ddiolch iddynt am eu gwaith ac hoffwn longyfarch y 6 ymgeisydd buddugol a dymuno’n dda iddynt yn eu rolau newydd.

Ar nodyn trist i gloi hoffwn gydymdeimlo gyda theulu Gladys Pritchard, Caergybi a fu farw rhai wythnosau yn ôl. Roedd hi’n un o hoelion wyth y Gymraeg ar yr Ynys ac yn weithgar iawn yn ei chymuned, a chafodd ei hanrhydeddu i Orsedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2005.

Roedd yn ddrwg iawn gennym ni glywed hefyd am farwolaeth y cyn-Gynghorydd Sir, Eric Jones, Llanfihangel Ysgeifiog. Rydym yn cydymdeimlo gyda’i deulu a’i ffrindiau ar yr adeg anodd hwn.

Yn olaf, hoffwn gymryd y cyfle i gydymdeimlo gydag unrhyw aelod etholedig neu aelod o staff sydd wedi cael profedigaeth yn ddiweddar. Gofynnaf felly i’r rhai sy’n bresennol yn y Siambr, ac sy’n abl i wneud, i sefyll os gwelwch yn dda am funud o dawelwch.

Digwyddiadau wedi eu mynychu