Yn gyntaf hoffwn ddiolch i staff y gwasanaethau argyfwng am eu gwaith yn gwarchod trigolion Ynys Môn drwy’r flwyddyn a gwelwyd enghraifft o hynny nol Sul gyda’r tân ar ffordd glanhwfa. Mae’n drueni mawr bod difrod sylweddol wedi ei achosi i adeilad hanesyddol yr hen Gyngor bwrdeistref. Er hynny, rydym yn ddiolchgar nad oedd unrhyw anafiadau.
Llongyfarchiadau mawr i Paul Woodhouse, Dirprwy Bennaeth Ysgol Uwchradd Caergybi ac i Liah Williams, Ysgol Pencarnisiog ar eu llwyddiant yng ngwobrau addysg gogledd Cymru 2023. Enillodd Paul wobr athro uwchradd y flwyddyn ac enillodd Liah wobr cymhorthydd y flwyddyn. Clod mawr i’r ddau ohonynt.
Llongyfarchiadau hefyd i’r heddwas Lisa Thomas ac i Angharad Jones o Wasanaethau Cymdeithasol y Cyngor ar ôl i’w gwaith yn taclo ymddygiad gwrthgymdeithasol ar Ynys Môn gael ei gydnabod yng ngwobrau Partneriaethau Datrys Problemau Heddlu Gogledd Cymru.
Derbyniodd Rhaglen Gymunedol Ynys Môn ganmoliaeth hefyd yn ddiweddar yng Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel i Gymru am yr effaith bositif a gafodd ar leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn trefi ar draws yr Ynys. Enillodd wobr yn y categori “Partneriaeth” am y ffordd gynhwysol yr oedd yn hyrwyddo diogelwch cymunedol.
Llongyfarchiadau i Mrs Annwen Morgan sydd wedi cychwyn ar ei gwaith fel cadeirydd newydd Fforwm Iaith Ynys Môn. Cyn brif weithredwr y Cyngor Sir, wrth gwrs, mae Annwen yn edrych ymlaen at gefnogi ac arwain y Fforwm sy’n gweithio i gynnal a datblygu’r Gymraeg ar Ynys Môn. Dymuniadau gorau iddi.
Cynhaliwyd Cynhadledd Genedlaethol Oed-Gyfeillgar yng Nghaerdydd ar 8 Tachwedd. Bu Sioned Young, Swyddog Datblygu Cymunedol Oed-Gyfeillgar Ynys Môn yn annerch ynghyd â Brenda Roberts, Cadeirydd Cyngor yr Henoed ar yr Ynys.
Troi at chwaraeon ac mae’n bleser tynnu sylw at dim pêl-rwyd merched Ynys Môn a fu’n cystadlu mewn twrnament ynysoedd yn Ynys Manaw yn ddiweddar. Ar ôl cystadlu’n frwd drwy’r gystadleuaeth llwyddodd tîm Môn drechu Guernsey yn eu gem olaf. Da iawn nhw!
Mae un o aelodau staff y Cyngor newydd ryddhau ei sengl Nadolig cyntaf – 'Amser yr Ŵyl'. Mae Dafydd Jones o’r Adain Budd-daliadau eisoes wedi perfformio ei sengl newydd ar raglen Heno ar S4C ac yn edrych ‘mlaen i bobl glywed y gân.
Llongyfarchiadau i bawb a gystadlodd yn Ffair Aeaf Frenhinol 2023. Hoffwn ymestyn llongyfarchiadau arbennig i Tony a Iona Ponsonby, sydd yn denantiaid ar un o ffermydd y Cyngor a braf oedd gweld llwyddiannau Ffermwyr Ifanc Môn yn y Sioe Aeaf.
Llongyfarchiadau hefyd i’r Ffermwyr Ifanc am gynnal yr Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cenedlaethol ym Mona. Braf oedd gweld y pafiliwn dan ei sang.
Ar nodyn Nadoligaidd, hoffwn ganmol cyfraniad trigolion Môn sydd wedi dod at ei gilydd i gynnal gweithgareddau cymunedol yn ystod mis Rhagfyr. Diolch i’r holl wirfoddolwyr am ledaenu ysbryd yr ŵyl yn ein trefi a phentrefi, a diolch i’r holl staff ysgol a’r plant a phobl ifanc sydd wedi paratoi cyngherddau a sioeau Nadolig ar draws yr Ynys. Hoffwn ddiolch ymlaen llaw hefyd i’r rhai hynny o staff y Cyngor a fydd yn gweithio dros yr ŵyl i gynnal gwasanaethau allweddol.
Yn olaf, mae cyfnod y Nadolig yn gallu bod yn anodd iawn i rai teuluoedd sy’n wynebu amgylchiadau heriol, salwch neu brofedigaeth. Rydym fel Cyngor yn dymuno cydymdeimlo gydag aelodau a swyddogion sydd wedi cael profedigaeth yn ddiweddar. Gofynnaf felly i’r rhai sy’n bresennol yn y Siambr, ac sy’n abl i wneud, i sefyll os gwelwch yn dda am funud o dawelwch i ddangos parch.