Hoffwn gychwyn drwy edrych yn ôl dros yr haf a llongyfarch trefnwyr Sioe Môn ar sioe arall lwyddiannus eleni a llongyfarch yr holl gystadleuwyr o’r Ynys a fu’n llwyddiannus yn y Sioe Genedlaethol a’r Eisteddfodau.
Yn ail, hoffwn ddymuno llongyfarchiadau mawr i blant a phobl ifanc yr Ynys ar eu llwyddiant gyda chanlyniadau TGAU, Lefel A, a chymwysterau lefel 2 a 3 eraill dros yr haf. Dymuniadau gorau i’r bobl ifanc hynny fydd yn gadael eu cartrefi am brifysgolion a cholegau ar hyd a lled Cymru a thu hwnt. Dwi’n siŵr roedd nifer o rieni emosiynol iawn ar yr Ynys dros y dyddiau diwethaf!
Mae’r Cyngor yn Rhiant Corfforaethol a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch ein Plant sy'n Derbyn Gofal ar eu llwyddiannau yn eu TGAU a chyraeddiadau eraill yn ddiweddar, mae'r rhan fwyaf wedi sicrhau lleoliadau coleg, profiadau gwaith neu gyfleoedd prentisiaeth ac mae gennym un dyn ifanc sydd newydd ddechrau ym Mhrifysgol Bolton - da iawn i chi gyd! Rydym hefyd wrth gwrs yn ddiolchgar i’r holl staff, athrawon, rhieni a rhieni maeth sydd wedi cefnogi’r bobl ifanc.
Llongyfarchiadau arbennig i Isaak Floyd-Eve oedd yn ddisgybl blwyddyn 13 yn Ysgol Uwchradd Caergybi ar ennill Gwobr Goronwy Jones am yr ymgeisydd Safon Uwch gorau mewn Ffiseg drwy Gymru. Da iawn Isaak.
Troi at chwaraeon nesaf, a llongyfarchiadau i Mabli Blackshaw o Gaergybi ar gynrychioli tîm pêl-droed dan 16 Cymru a hithau yn ddim ond 12 oed. Chwaraeodd Mabli i Gymru yn erbyn Iwerddon yn Nulyn yn ddiweddar, a dwi’n siŵr bod ganddi yrfa pêl-droed disglair o’i blaen. Cofiwch yr enw!
Llongyfarchiadau i Jenna Seddon o Rosneigr – enillydd y ras merched Firelighter a oedd yn rhan o wŷl redeg y Ring O’Fire ym mis Awst a hefyd i Gethyn Evans o Fryngwran – y dyn cyntaf yn ras 5 milltir Y Morglawdd a gynhaliwyd ym mis Awst hefyd.
Hoffwn longyfarch Gareth Cadwaladr, rheolwr gwasanaethau digidol yn y Cyngor, sydd wedi seiclo dros 700 milltir o Sweden i’r Iseldiroedd gyda chriw o ffrindiau i godi arian at elusen Blood Cancer UK. Maent wedi llwyddo i hel dros £2,600 at yr elusen hyd yma.
Hoffwn dalu teyrnged i Elfed Roberts o’r Adran Gyllid sydd wedi cyrraedd carreg filltir nodedig o weithio i’r Cyngor am 50 mlynedd. Dwi’n siŵr ei fod wedi gweld llawer o newid yn ystod ei yrfa. Mae ein diolch ni’n fawr i aelodau o staff fel Elfed am eu hymroddiad diflino i’r Cyngor.
Aros gyda materion y Cyngor Sir, ac mae’n bleser gennyf ddatgan ein bod wedi llwyddo i uwchraddio ein haelodaeth Hyderus o ran Anabledd, ac rydym bellach yn cael ein hadnabod fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Diolch yn fawr i’r staff hynny fu’n rhan o’r datblygiad pwysig hwn.
Llongyfarchiadau i’r Cynghorydd Jeff Evans ar ei lwyddiant diweddar ym mhencampwriaethau’r “Town Crier”. Dwi’n siŵr fod Jeff wedi bod yn llysgennad gwych dros Gaergybi yn y digwyddiad.
Hoffwn hefyd ddymuno’n dda i gyn-arweinydd y Cyngor, Llinos Medi ar gychwyn ei gwaith fel aelod seneddol dros Ynys Môn. Edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio gyda Llinos yn ei rôl newydd.
Yn olaf ac ar nodyn trist, hoffwn gydymdeimlo gyda theuluoedd a ffrindiau Humphrey Pickering, Stephen a Katherine Burch a gollodd eu bywydau mewn damwain car ym Miwmares ddiwedd Awst. Er tristwch y digwyddiad, roedd ymateb y trigolion lleol yn arwydd o gryfder y gymuned.
Hoffwn hefyd dalu teyrnged ar ran y Cyngor i gyd i’r aelodau hynny o staff a fu farw yn ddiweddar a chydymdeimlo’n ddwys gyda’u teuluoedd:
- Tony Jones a fu’n gwasanaethu’r Cyngor am flynyddoedd ac a oedd yn weithgar yn y gymuned drwy ei waith gyda MônFM
- Einir Williams, pennaeth Sbaeneg, dirprwy bennaeth 6ed ac Athrawes BAC uchel ei pharch yn Ysgol David Hughes, a
- Hilda Owen, a oedd yn aelod profiadol a gweithgar o’r tîm gofal arbennig yng Nghanolfan Addysg y Bont.
Hefyd, rydym fel Cyngor yn dymuno cydymdeimlo gydag unrhyw aelod etholedig, neu aelod o staff arall sydd wedi cael profedigaeth yn ddiweddar. Gofynnaf felly i’r rhai sy’n bresennol yn y Siambr, ac sy’n abl i wneud hynny, sefyll os gwelwch yn dda am funud o dawelwch fel arwydd o barch.