Mae blaen raglen waith y Pwyllgor Gwaith yn galluogi Aelodau’r Cyngor a’r cyhoedd weld pa benderfyniadau allweddol y mae’r Pwyllgor yn debygol o’u gwneud dros y misoedd i ddod.
Mae modd i benderfyniadau gweithredol gael ei gwneud gan y Pwyllgor Gwaith llawn yn gweithredu fel corff cyfunol neu gan aelodau unigol o’r Pwyllgor Gwaith yn gweithredu trwy hawliau dirprwyiedig. Mae’r blaen raglen waith yn cynnwys gwybodaeth am y penderfyniadau a geisir, pwy fydd yn gwneud y penderfyniadau a phwy yw'r Swyddogion a’r Deilyddion portffolio arweiniol ar gyfer pob eitem.
Dylid nodi, fodd bynnag, bod y blaen raglen waith yn ddogfen hyblyg, gan nad oes modd gwybod am yr holl eitemau y bydd angen penderfyniad arnynt gymaint â hyn ymlaen llaw ac efallai bydd angen newid yr amserlen ar gyfer rhai materion er mwyn cwrdd â blaenoriaethau newydd ayyb. Oherwydd hyn, fe adolygir y blaen raglen waith yn rheolaidd ac fe gyhoeddir diweddariad yn fisol.
Mae’r blaen raglen waith ddiweddaraf ar gael i’w darllen yma: