Cynghorydd Gary Pritchard
Etholwyd y Cynghorydd Pritchard yn gyntaf nôl yn 2021 fel cynghorydd Plaid Cymru i gynrychioli Ward Seiriol. Daeth yn aelod o’r Pwyllgor Gwaith yn 2022 gyda chyfrifoldeb dros y portffolio plant, pobl ifanc a theuluoedd yn ogystal â’r portffolio tai. Cafodd wedyn ei benodi yn Ddirprwy Arweinydd y Cyngor yn 2023.
Cyn dod yn gynghorydd, bu Gary yn gynhyrchydd teledu llawrydd gan weithio ar gyfresi dogfen a chwaraeon byw i S4C.
Mae hefyd yn weithgar yn ei gymuned a hynny amlycaf o bosibl gyda’r band pres lleol lle mae’n ysgrifennydd ac yn aelod o Seindorf Beaumaris, yn ogystal â bod yn diwtor efo'r band ieuenctid. Mae'n Aelod o Gyngor Bandiau Pres Cymru a hefyd ar banel Bandiau Pres yr Eisteddfod Genedlaethol.
Tu hwnt i fandiau pres, mae Gary gefnogwr brwd o CPD Wrecsam a’r tîm pêl-droed cenedlaethol. Mae hefyd yn aelod gweithgar o Gymdeithas Rhandiroedd Beaumaris ac o glwb rhwyfo'r dref, lle mae'n eiriolwr cryf dros fanteision iechyd meddwl ac iechyd corfforol y ddau weithgaredd.
Gweler mwy am y Cynghorydd Gary Pritchard ar ein tudalennau democratiaeth