Cyngor Sir Ynys Môn

Rhoi gwybod am dwyll


Pam y dylech roi gwybod am dwyll

Bydd cyflawni twyll yn erbyn y Cyngor yn cael effaith uniongyrchol ar y gwasanaethau a ddarperir i drigolion Ynys Môn. Bydd pob punt sy’n cael ei cholli i dwyll bunt yn llai y gellir ei gwario ar ddarparu gwasanaethau.

Gallwch ein helpu ni i atal a darganfod twyll drwy ei riportio ar-lein.

Enghreifftiau o dwyll

  • Dweud celwydd am eich amgylchiadau er mwyn derbyn nwyddau, gwasanaethau, gostyngiadau, eithriadau neu grantiau.
  • Darparu gwybodaeth neu ddogfennau ffug.
  • Peidio â darparu’r holl wybodaeth i’r cyngor a allai effeithio ar gais neu hawliad.
  • Methu, drwy fod yn anonest, â rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau pan fod hynny’n ofynnol o dan y gyfraith.
  • Staff y cyngor yn dwyn neu gamddefnyddio adnoddau’r cyngor – mae hyn yn cynnwys arian parod, storfeydd, offer, cerbydau neu adeiladau.
  • Staff y cyngor yn rhoi contractau gwaith i ffrindiau.
  • Isosod tai cyngor.

Ni fydd twyll, llwgrwobrwyo na llygredigaeth yn cael eu goddef. Bydd pob achos yn cael ei ymchwilio iddo.

Mathau o dwyll

Gallwch roi gwybod am dwyll budd-daliadau drwy ffonio’r Llinell Gymorth Genedlaethol Twyll Budd-daliadau ar 0800 854 440 (costau galwadau a rhifau ffôn) neu roi gwybod amdano ar-lein (www.gov.uk)

Rhoddir Bathodynnau Glas i bobl ag anableddau. Efallai na fydd yr anabledd bob amser yn amlwg ac efallai y bydd yn ysbeidiol.

 

Os byddwch yn gweld rhywun wedi parcio mewn lle parcio anabl, ond nad ydynt yn dangos arwyddion amlwg o anabledd, nid yw o reidrwydd yn golygu nad ydynt yn anabl neu nad oes ganddynt hawl i ddefnyddio’r lle parcio.

 

Gellir camddefnyddio bathodynnau mewn nifer o ffyrdd.

Gan ddeiliaid y bathodyn glas

  • Defnyddio bathodyn sydd ddim yn ddilys rhagor.
  • Defnyddio bathodyn yr hysbyswyd ei fod wedi’i golli neu wedi’i ddwyn.
  • Gadael i ffrind neu berthynas ddefnyddio’r bathodyn.
  • Defnyddio bathodyn sydd wedi cael ei gopïo.
  • Newid y manylion ar fathodyn, megis y dyddiad gorffen.
  • Gwneud cais twyllodrus (er enghraifft, darparu gwybodaeth ffug ar y ffurflen gais) neu ddefnyddio bathodyn a gafwyd trwy dwyll.

Gan drydydd parti

  • Defnyddio bathodyn rhywun arall pan nad yw deiliaid y bathodyn yn bresennol yn y cerbyd.
  • Defnyddio bathodyn sy’n eiddo i rywun sydd wedi marw.
  • Copïo, addasu neu greu bathodyn ffug.
  • Defnyddio bathodyn sydd wedi’i ddwyn.
  • Defnyddio bathodyn ffug.

Mae enghreifftiau yn cynnwys:

  • swyddogion y cyngor neu gynghorwyr yn derbyn arian neu rhodion gan aelodau’r cyhoedd
  • swyddogion y cyngor neu gynghorwyr yn cymryd mantais o’u sefyllfa er mwyn cael arian neu roddion
  • swyddogion y cyngor neu gynghorwyr yn rhoi ffafriaeth i gontractwyr am arian neu roddion, neu am eu bod yn deulu neu’n ffrindiau
  • contractwyr yn llwgrwobrwyo swyddog y cyngor er mwyn cael gwaith gyda’r cyngor

Mae enghreifftiau yn cynnwys:

  • hawlio gostyngiad person sengl y Dreth Gyngor os oes oedolyn arall (sydd ddim wedi’i eithrio) yn byw yn yr eiddo
  • peidio â dweud wrth y cyngor am newid mewn amgylchiadau a allai effeithio ar eich hawl i ostyngiad yn y Dreth Gyngor
  • hawlio rhyddhad neu ostyngiad nad oes gennych hawl iddo, megis eithriad i fyfyrwyr, eithriad ar gyfer eiddo sydd heb ei feddiannu a’i ddodrefnu
  • honni mai eich eiddo ar Ynys Môn yw eich prif breswylfa er mwyn osgoi talu premiwm y Dreth Gyngor

Gallai busnes osgoi talu trethi trwy:

  • gyflwyno hawliadau ffug am ostyngiadau a rhyddhad
  • darparu gwybodaeth neu ddogfennau ffug mewn perthynas â’r sawl sy’n meddiannu eiddo neu’r trethdalwr

Mae enghreifftiau yn cynnwys:

  • dweud celwydd am amgylchiadau neu orliwio’r angen am ofal
  • methu â datgan incwm, cynilion neu asedau cyfalaf eraill megis eiddo, stociau a bondiau
  • parhau i hawlio cefnogaeth ariannol ar ôl i’r person oedd angen gofal farw
  • defnyddio arian a fwriadwyd i ddarparu gofal ar gyfer pethau eraill
  • parhau i hawlio neu dderbyn taliadau uniongyrchol er eu bod allan o’r wlad am gyfnodau estynedig
  • gofalwyr yn hawlio am ofal nad ydynt wedi ei ddarparu

Mae enghreifftiau yn cynnwys:

  • peidio â meddiannu tŷ cyngor fel eich unig/brif gartref
  • isosod tŷ cyngor i rywun arall
  • parhau i fyw mewn tŷ cyngor ar ôl i’r tenant adael neu farw, heb ganiatâd y cyngor
  • gwneud datganiadau ffug wrth wneud cais am dŷ cymdeithasol

Mae enghreifftiau yn cynnwys:

  • contractwyr sy’n gweithio i’r cyngor yn pennu prisiau penodol
  • contractwyr neu gyflenwyr yn codi am waith na chafodd ei wneud neu am wasanaethau na chafodd eu darparu
  • contractwyr neu gyflenwyr yn cael eu ffafrio gan swyddogion oherwydd perthynas bersonol a/neu gael cynnig cymhelliant
  • twyll mewnol gan weithwyr
  • unigolion, busnesau a sefydliadau sector gwirfoddol yn camddefnyddio arian grant