Mae’r datganiad cyfrifon hwn yn egluro cyllid Cyngor Sir Ynys Môn yn ystod blwyddyn ariannol a’r sefyllfa ariannol ar ddiwedd y flwyddyn honno.
Mae gwybodaeth bellach ar gyfrifon a chyllidebau’r cyngor ar gael oddi wrth y Gwasanaeth Cyllid. Mae croeso i chwi anfon unrhyw sylwadau neu ymholiadau i sylw’r Gwasanaeth Cyllid.
Dyma rybudd, bod yr Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi tystio bod yr archwiliad o gyfrifon Cyngor Sir Ynys Môn ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2025 wedi ei gwblhau yn unol ag Adran 22 Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (y Ddeddf).
Yn unol â Rheoliad 13 o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014, gall etholwr ar gyfer yr ardal arolygu wneud copi o’r datganiad cyfrifon yn y cyfeiriad isod neu wneud cais i dderbyn copi o’r datganiad cyfrifon am gost rhesymol am bob copi.
Gellir arolygu’r datganiad cyfrifon o Ddydd Llun i Ddydd Gwener (heblaw am wyliau’r banc) rhwng 9am a 4pm yn:
Adran Adnoddau
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW
Dyddiad: 31 Hydref 2025
R Marc Jones
Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151
Hygyrchedd
Mae'r ddogfen 'Datganiad o'r Cyfrifon 2024 i 2025 ar gael ar y dudalen hon i’w lawrlwytho. Nid ydym wedi gallu gwneud y ddogfen hon yn gwbl hygyrch. Os nad ydych yn gallu darllen y ddogfen hon, gofynnwch i ni am y ddogfen mewn fformat arall.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at
digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.