Caffael
Mae'r gwariant ar gaffael oddeutu 690m y flwyddyn.
Mae'n cydnabod bod caffael nwyddau, gwaith a gwasanaethau yn cael effaith fawr ar lawer o agweddau ar amcanion corfforaethol yr Awdurdod, gan gynnwys y rhaglen arbedion a datblygu economaidd.
Mae caffael effeithiol yn hollbwysig i Gyngor Sir Ynys Môn a dim ond trwy fabwysiadu a gweithredu'r weledigaeth a'r amcanion caffael a hyrwyddir gan y Strategaeth hon y gall gweithgareddau caffael sicrhau gwerth am arian, lles cymunedol a chynaliadwyedd.
Gwneir penderfyniadau caffael ar ran yr Awdurdod er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau o ran darparu ‘gwerth am arian’ a chwrdd ag anghenion y gymuned leol.
Tendro
Tendro yw'r broses a ddefnyddir gan y Cyngor i wahodd cyflenwyr i gyflenwi nwyddau neu wasanaethau i'r Cyngor.
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn gwahodd tendrau am unrhyw nwyddau, gwasanaethau neu waith sy'n dod i gyfanswm o dros £30,000. Y nod yw creu cystadleuaeth effeithiol, deg a thryloyw rhwng cwmnïau i sicrhau gwerth am arian i'r Cyngor a'r trethdalwr.
Y gweithdrefnau tendro mwyaf poblogaidd a ddefnyddir gan y Cyngor yw naill ai:
- y 'weithdrefn agored': Lle gall unrhyw gyflenwr dendro am waith heb fynd trwy weithdrefn cyn-gymhwyso. Fe'i defnyddir fel arfer os yw nifer y cyflenwyr yn y farchnad y gyfyngedig neu lle mae lefel y risg yn isel
- y 'weithdrefn gyfyngedig': Rhaid i gyflenwyr gwblhau Holiadur Cyn-Gymhwyso cyn y caniateir iddynt dendro am waith y Cyngor. Fe'i defnyddir fel arfer mewn sefyllfaoedd lle mae cystadleuaeth fawr ond hefyd risg fawr
Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y cwestiynau a'r atebion isod:
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn hysbysebu ei dendrau ar borth Llywodraeth Cymru: GwerthwchiGymru
Oes.
Pan fyddwch chi'n cofrestru ar GwerthwchiGymru byddwch chi'n creu proffil i'ch busnes. Trwy ddarparu gwybodaeth fanwl am eich busnes o fewn y proffil, bydd yn helpu GwerthwchiGymru i benderfynu pa dendrau a allai fod o ddiddordeb i'ch busnes.
Os ydych wedi cynnwys eich manylion llawn a'ch codau Geirfa Gaffael Gyffredin (GGG) cywir, bydd y system yn anfon e-bost awtomatig atoch pan fydd hysbyseb wedi'i gosod sy'n berthnasol i'ch busnes.
Codau GGG yw'r codau a ddefnyddir i nodi gwahanol feysydd gwaith. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan GwerthwchiGymru neu trwy gysylltu â Busnes Cymru ar 01745 585 025.
Nac oes. Nid oes raid talu i gofrestru ac mae'r system yn syml i'w defnyddio.
Mae'r rhan fwyaf o Awdurdodau Lleol yn defnyddio GwerthwchiGymru.
Rhaid i Gyngor Sir Ynys Môn gydymffurfio gyda rheolau Ewropeaidd wrth wahodd tendrau am waith sy’n werth mwy na throthwy penodol.
Mwy o wybodaeth
Oes.
Os oes angen cymorth arnoch, gellir dod o hyd i fanylion cyswllt ar y ddogfen dendro ei hun. Gall Busnes Cymru hefyd gynnig cyngor ac mae hefyd yn cynnal sesiynau ar sut i dendro.
Cysylltwch â Busnes Cymru ar 01745 585 025.
Yn anffodus, ni all y Cyngor dderbyn unrhyw gyflwyniadau sy’n cyrraedd ar ôl y dyddiad/amser cau a benodwyd.
Oes. Gall y Cyngor gynnig atborth ar unrhyw gyflwyniad aflwyddiannus i gynorthwyo cyflenwyr i wella ar gyfer y dyfodol.
Er mwyn derbyn atborth, cysylltwch â'r pwynt cyswllt a nodir ar y ddogfen dendro, neu cysylltwch ag Uned Gaffael Gorfforaethol Cyngor Sir Ynys Môn gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.
Os na allwch ddod o hyd i ateb i'ch cwestiwn ar y dudalen hon, cysylltwch â ni ar 01248 752131 neu caffael@ynysmon.llyw.cymru