Cyngor Sir Ynys Môn

Rheolau gweithdrefnau contractau


Mae'r rheolau hyn yn rheolau sefydlog a wneir yn unol ag Adran 135 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Mae cydymffurfio â'r Rheolau hyn a chadw at y gyfraith, a'r deddfau a'r rheoliadau y maent yn deillio ohonynt (yn enwedig yr egwyddorion sy'n ymwneud â pheidio â gwahaniaethu, triniaeth gyfartal, cydnabyddiaeth gilyddol a thryloywder), yn orfodol i bob swyddog, aelod, asiant ac ymgynghorydd sy'n gweithredu ar ran y cyngor. Mae'r Rheolau’n sicrhau bod gweithgarwch caffael yn cael ei gyflawni mewn modd sy'n cydymffurfio yn gyfreithiol, yn dryloyw, yn deg ac yn gystadleuol.

Ni ddylai Aelodau geisio dylanwadu ar Swyddogion wrth weithredu unrhyw broses gaffael.

Efallai na fydd y ffeil yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.