Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Partneriaethau


Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth a chredwn fod gwaith partneriaeth llwyddiannus yn hanfodol i ddarparu gwell ganlyniadau a gwasanaethau i’n cwsmeriaid a’n defnyddwyr ac i Ynys Môn fod yn llwyddiannus.

Mae gan y Cyngor brofiad helaeth o weithio mewn partneriaeth boed hynny’n lleol, rhanbarthol neu’n genedlaethol. Gyda phwysau cynyddol ar arian cyhoeddus, mae’n hanfodol fod y Cyngor yn sicrhau bod canllawiau clir mewn lle ar gyfer penderfynu pa bryd y dylid sefydlu partneriaeth, pa wasanaeth(au) a deilliannau y disgwylir o unrhyw bartneriaeth a bod rheolaeth gadarn o’r berthynas.

I’r perwyl hyn, mae’r Cyngor wedi datblygu Dogfen Bolisi a Theclyn Partneriaethol sydd yn cynnig canllawiau ar gyfer sefydlu a datblygu partneriaethau. Dylid nodi mai dogfen fyw yw’r Teclyn, gyda’r bwriad o ddiweddaru’r Teclyn yn rheolaidd.

Mae’r Ddogfen Bolisi, y Teclyn Partneriaethol a’r Atodiadau i’r Teclyn, ar gael yma i’w darllen neu lawrlwytho:

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.