Cyngor Sir Ynys Môn

Ffliw adar


Mae Parth Atal Ffliw Adar (AIPZ) yn dod i rym ar 30 Ionawr 2025.

Parthau rheoli ffliw adar

Achosion cyfredol o ffliw adar a’r mesurau rheoli

Dilynwch y dolenni am gyngor ar y cyfyngiadau sy’n effeithio pob achos o ffliw adar.

Defnyddiwch fap rhyngweithiol yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion i ganfod os yw eich safle chi o fewn un o’r parthau hyn.

Mae’r risg i iechyd y cyhoedd o’r feirws yn isel iawn. Mae cig wedi ei goginio’n iawn a chynnyrch fel wyau yn saff i’w bwyta. 

Sut i adrodd am achosion

Peidiwch a chyffwrdd na chodi unrhyw adar sâl neu farw ond rhowch wybod i Defra.

Diweddariadau

Adnabod y risg ddiweddaraf i'ch dofednod a'ch adar anwes a'r camau y mae'n ofynnol i chi eu cymryd.

Diweddariad diweddaraf gan Lywodraeth Cymru - bydd y ddolen yn agor tab newydd

Arwyddion clinigol

Efallai y bydd yr arwyddion clinigol a ganlyn yn bresennol:

  • pen wedi chwyddo
  • afliwiad glas ar y gwddf
  • colli’r awydd i fwyta
  • trafferthion anadlu megis: pig ar agor, peswch/tisian, gyrglo
  • dolur rhydd
  • dodwy llai o wyau
  • mwy o farwolaethau

Cofrestru dofednod ac adar hela

Dylech gofrestru eich dofednod, hyd yn oes os ydynt yn cael eu cadw fel anifeiliaid anwes, fel y gall yr Asiantaeth Anifeiliaid a Phlanhigion gysylltu â chi yn ystod achos o ffliw adar. Mae hyn yn ofyn cyfreithiol os oes gennych 50 neu fwy o adar. 

Mae dofednod yn cynnwys ieir, hwyaid, tyrcïod, gwyddau, colomennod, soflieir, ieir gini a ffesantod.

Dofednod (gan gynnwys adar hela): rheolau a ffurflenni cofrestru

Cyngor bioddiogelwch

Anogir pob ceidwad adar i gynnal lefelau bioddiogelwch uchel; pa un ai ydych yn cadw ychydig o adar anwes, neu os oes gennych haid fasnachol fawr.

Mesurau i sicrhau lefelau uchel o fioddiogelwch i bob ceidwad dofednod

  • Sicrhau nad yw'r ardaloedd lle mae'r adar yn cael eu cadw yn ddeniadol i adar gwyllt, er enghraifft, drwy osod netin dros byllau dŵr a'r ardaloedd cyfagos, a thrwy gael gwared ar ffynonellau bwyd a allai ddenu adar gwyllt.
  • Bwydo a dyfrio'ch heidiau mewn ardaloedd caeedig rhag denu adar gwyllt.
  • Sicrhau bod cyn lleied o fynd a dod â phosibl o fannau caeedig lle cedwir adar.
  • Glanhau a diheintio esgidiau, defnyddio dipiau traed cyn mynd i mewn i ardaloedd caeedig dofednod, a chadw ardaloedd lle mae adar yn byw yn lân ac yn daclus.
  • Os yw'r haint wedi cyrraedd eisoes, ei leihau drwy lanhau a diheintio ardaloedd concrit, a thrwy godi ffensys o amgylch ardaloedd gwlyb neu gorsiog.
  • Cadw hwyaid a gwyddau domestig ar wahân i ddofednod eraill.
  • Ni ddylid symud adar hela gwyllt sy'n cael eu dal yn ystod y tymor agored am o leiaf 21 diwrnod, yn ddarostyngedig i amodau yn y datganiad.
  • Sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw yn unol â'r amodau yn y datganiad. Cwblhau'r rhestr wirio hunanasesu bioddiogelwch gorfodol o fewn 7 diwrnod. Er mwyn helpu i gadw adar yn rhydd rhag clefydau, rydym wedi creu dwy restr wirio hunanasesu bioddiogelwch ar gyfer ceidwaid dofednod masnachol a cheidwaid heidiau bach o ddofednod.
  • Os yw pobl yn cadw mwy na 500 o adar, bydd gofyn iddyn nhw gymryd camau bioddiogelwch ychwanegol hefyd, gan gynnwys cyfyngu ar fynediad i bobl nad yw’n hanfodol eu bod yn dod i gysylltiad â’r adar, newid dillad neu esgidiau cyn mynd i fannau caeedig lle cedwir adar, a glanhau a diheintio cerbydau.