Mae’r adran Gwarchod y Cyhoedd yn gweithredu gwasanaeth Iechyd y Porthladd yn ystod dyddiau’r wythnos rhwng 9am a 5pm. Mae’r tîm hwn yn ymgymryd â:
- archwiliadau a dosbarthu tystysgrifau glanweithdra llongau
- profi dŵr yfer a phrofi am glefyd y llengfilwr (Legionella) ar longau mewn porthladdoedd neu farinâu ar Ynys Môn
- clirio ardystiadau datganiadau meddygol ar gyfer Iechyd ar longau rhyngwladol sy’n cyrraedd er mwyn codi cwarantîn
- rheolyddion clefydau heintus
- diogelwch bwyd ar longau mewn porthladdoedd
- llesiant y criw ar longau mewn porthladdoedd
- rheolyddion mewnforio ar gyfer
- deunydd plastig sy’n cyffwrdd bwyd
- cynnyrch organig
- bwyd a bwyd anifeiliaid sydd angen gwiriad Iechyd a Ffytoiechydol wrth y ffin
- clirio cynnyrch pysgodfa yn unol â deddfwriaeth pysgota anghyfreithlon ac anrheoleiddiedig nas hysbysir amdano
Mewnforio pysgod