Cytundeb Cydweithio Great British Energy‑Nuclear a Chyngor Sir Ynys Môn
Mae’r cytundeb cydweithio hwn yn nodi egwyddorion cyffredin ar gyfer cydweithio ac nid yw’n rhwymo’n gyfreithiol. Nid yw’n effeithio ar gyfrifoldebau statudol na sefydliadol yr un o’r ddau barti. Gall y naill barti neu’r llall dynnu’n ôl ar unrhyw adeg drwy hysbysu’r llall yn ysgrifenedig.
Pwrpas
Mae’r cytundeb cydweithio hwn yn nodi’r gwerthoedd, yr egwyddorion gweithio a’r disgwyliadau cyffredin a fydd yn llywio gweithgarwch ar y cyd rhwng Great British Energy-Nuclear a Chyngor Sir Ynys Môn.
Y nod yw sicrhau partneriaeth dryloyw, effeithlon, barchus a chadarnhaol sy’n sicrhau canlyniadau cadarnhaol i gymuned yr Ynys ar yr un pryd â chefnogi llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol, yn unol â Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.
Gwerthoedd cyffredin
Mae’r ddau sefydliad yn cytuno y bydd y gwerthoedd canlynol yn sail i bob agwedd ar y bartneriaeth.
Gwerthoedd Cyngor Sir Ynys Môn
- Parchu: Byddwn yn ymgysylltu â’n gilydd a’r gymuned mewn ffordd ystyriol, deg a chynhwysol.
- Cydweithio: Byddwn yn cydweithio’n rhagweithiol fel partneriaid i gyflawni nodau cyffredin ar gyfer yr ynys a’i thrigolion.
- Bod yn onest: Byddwn yn cyfathrebu’n onest ac yn cynnal safonau uchel o onestrwydd yn ein holl gysylltiadau.
- Hyrwyddo’r cyngor a’r ynys: Byddwn yn meithrin balchder yn Ynys Môn, gan hyrwyddo’r ynys yn gadarnhaol a sicrhau bod ei buddiannau’n ganolog i’n cydweithrediad.
Gwerthoedd Great British Energy‑Nuclear
- Ymddiried: Rydym yn rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch, rydym yn ymddwyn yn gyfrifol ac yn ddidwyll.
- Herio: Rydym yn chwilfrydig ac yn ddewr yn y ffordd rydym yn meddwl ac yn ymddwyn.
- Cymell: Rydym yn cyflawni pethau ac yn gwneud gwahaniaeth.
- Gofalu: Rydym yn ystyriol, yn gynhwysol ac yn parchu eraill.
- Cydweithio: Rydym yn gweithio fel tîm; rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac arbenigedd.
Mae’r ddau barti yn ymrwymo i sicrhau bod eu hymddygiad yn cyd-fynd â’r uchod a bod timau’n deall ac yn dangos y gwerthoedd hyn yn eu gwaith o ddydd i ddydd.
Egwyddorion cyffredinol ar gyfer cydweithio
Gan ddefnyddio egwyddorion cyffredinol cyhoeddedig Cyngor Sir Ynys Môn a safonau sefydliadol Great British Energy‑Nuclear, bydd y bartneriaeth yn gweithredu yn unol â’r canlynol.
Ymrwymiad ac atebolrwydd
Bydd y ddau sefydliad yn gweithredu’n dryloyw, yn cyflawni cyfrifoldebau y cytunwyd arnynt, ac yn cynnal llwybrau llywodraethu ac adrodd clir ar gyfer gweithgareddau cydweithredol.
Cyfathrebu
Bydd cyfathrebu’n agored, yn amserol ac yn rhagweithiol. Mae’r ddau bartner yn ymrwymo i system negeseuon cydgysylltiedig, prosesau briffio ar y cyd, ac uwchgyfeirio unrhyw broblemau posibl yn gynnar.
Cydraddoldeb ac amrywiaeth
Byddwn yn cynnal y safonau uchaf o ran cydraddoldeb, gan sicrhau ymgysylltiad hygyrch, dileu gwahaniaethu a chefnogi’r rheini sy’n wynebu anfantais.
Y Gymraeg
Bydd y ddau sefydliad yn cydnabod arwyddocâd gweithio mewn cymuned ddwyieithog, lle rhoddir statws cyfartal i’r Gymraeg a’r Saesneg.
Atal a diogelu
Mae diogelu yn gyfrifoldeb a rennir. Bydd yr holl waith ar y cyd yn cael ei gynllunio a’i gyflawni mewn ffordd sy’n diogelu plant, oedolion ac unigolion agored i niwed.
Datblygu cynaliadwy
Bydd y ddau sefydliad yn ystyried llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol hirdymor penderfyniadau.
Arloesi
Bydd y ddau sefydliad yn chwilio am ddulliau arloesol sy’n seiliedig ar ddata ac yn croesawu offer digidol lle bo hynny’n briodol i wella canlyniadau ac ymgysylltu.
Ffyrdd o weithio gyda’n gilydd
Cynllunio a gwneud penderfyniadau ar y cyd
- Sefydlu strwythur cyfarfod y cytunir arno ar y cyd i gydlynu ymgysylltu.
- Cytuno ar ffrydiau gwaith, cerrig milltir a phwyntiau penodol clir ar gyfer gwneud penderfyniadau.
- Sicrhau bod sensitifrwydd gwleidyddol, cymdeithasol a chymunedol priodol yn cael ei ystyried yn gynnar.
Rhannu gwybodaeth
- Rhannu gwybodaeth berthnasol yn agored ac mewn da bryd, yn amodol ar gyfrinachedd, dyletswyddau cyfreithiol a gofynion llywodraethu data.
- Ymrwymo i ddatrys problemau ar y cyd pan fydd heriau’n codi.
- Ymrwymo i roi’r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd i Aelodau Etholedig Lleol a rhanddeiliaid allweddol (er enghraifft, aelodau o’r Fforwm Ynys Ynni).
Ymgysylltu â’r gymuned
- Cydgysylltu negeseuon cyhoeddus er mwyn osgoi dryswch; os oes gwahaniaethau o ran safle neu farn, dylid gwneud y rhain yn glir.
- Sicrhau cynnwys dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) ym mhob gohebiaeth, gyda’r Gymraeg yn gyntaf.
- Cynnwys rhanddeiliaid allweddol yn gynnar, yn dryloyw ac yn gyson.
- Cydweithio i gynnwys safbwyntiau pob rhan o’r gymuned, gan gynnwys y rheini nad ydynt yn cael eu clywed yn aml.
Uwchgyfeirio a datrys problemau
- Dylid codi anghytundebau’n brydlon a mynd i’r afael â nhw ar y cyd.
- Cytunir ar lwybrau uwchgyfeirio ar lefel uwch swyddogion.
Llywodraethu ac atebolrwydd
- Bydd cyfarfodydd monitro rheolaidd yn adolygu cynnydd, cydymffurfedd â’r cytundeb, ac effeithiau ar gymunedau.
- Bydd uwch arweinwyr o’r ddau sefydliad yn cael diweddariadau cyfnodol.
- Dylai’r cytundeb hwn fod ar gael yn rhwydd i staff y ddau sefydliad a’n rhanddeiliaid.
Hyd ac adolygiad
- Daw’r cytundeb hwn i rym pan gaiff ei lofnodi gan y ddau barti.
- Dylid ei adolygu cyn yr ymgynghoriad statudol (gan nodi nad yw PAC1 yn statudol o dan y Ddeddf Cynllunio), neu’n gynt os bydd newidiadau sylweddol yn digwydd.
- Mae angen caniatâd ysgrifenedig ar y ddwy ochr i wneud newidiadau.
