Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid grant i ddarparu rhyddhad ardrethi lletygarwch bwyd a diod i fusnesau cymwys ar gyfer 2026 i 2027.
Anelir y rhyddhad hwn at fusnesau cymwys yn y sector lletygarwch bwyd a diod, er enghraifft:
- tafarnau
- bwytai
- caffis
- bariau
- lleoliadau cerddoriaeth fyw
Nod y rhyddhad yw helpu'r sectorau hyn i reoli pwysau costau parhaus.
Bydd y rhyddhad yn cynorthwyo eiddo wedi’i feddiannu sy’n gymwys, drwy gynnig disgownt o 15% ar filiau ardrethi annomestig ar gyfer eiddo o'r fath.
Bydd y rhyddhad ar gael i bob busnes sy'n gymwys, ond bydd uchafswm i'r swm y caiff pob busnes ei hawlio ar draws Cymru. Cyfanswm y rhyddhad sydd ar gael yw £110,000 ar gyfer yr holl eiddo a feddiannir gan yr un busnes.
Gwneud cais
Mae rhagor o ganllawiau ar gael ar wefan Busnes Cymru. Mae ffurflen gais ar gael yn y canllawiau hyn, i'w lawrlwytho.
Rhaid anfon ffurflenni cais at Gyngor Sir Ynys Môn. Mae'r manylion cyswllt ar y dudalen we hon.