Cynllun trwyddedu triniaethau arbennig
Daeth y cynllun trwyddedu gweithdrefnau arbennig newydd i rym ar 29 Tachwedd 2024.
Bydd yn ofynnol yn gyfreithiol i ymarferwyr sy'n cyflawni unrhyw weithdrefn arbennig (gweler isod) ar rywun arall yng Nghymru fod yn drwyddedig (cyfeirir at y drwydded hon fel 'Trwydded Triniaethau Arbennig') a bydd angen i eiddo/cerbydau y mae ymarferwyr triniaethau arbennig yn gweithredu ohonynt gael eu cymeradwyo (a elwir yn 'Dystysgrif Eiddo a Gymeradwywyd). Bydd gan y cynllun hefyd ofynion/amodau gorfodol o fewn y Rheoliadau ar gyfer ymarferwyr ac mangreoedd/cerbydau.
Mae’n drosedd i ymarferwr ymgymryd ag unrhyw driniaeth arbennig heb drwydded neu ymgymryd ag unrhyw driniaeth o safle neu gerbyd nad yw wedi’i gymeradwyo, oni bai bod gennych drwydded/tystysgrif bontio. Mae hefyd yn drosedd i beidio â chydymffurfio â'r gofynion penodol a nodir yn y rheoliadau ar gyfer ymarferwyr a eiddo/cerbydau.
Triniaethau arbennig sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun trwyddedu newydd
Bydd y cynllun newydd ond yn berthnasol i driniaethau arbennig, a ddiffinnir yn Adran 57 Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, ac sy’n cynnwys:
- Aciwbigo (yn cynnwys nodwyddo sych)
- Tyllu rhannau o’r corff (gan gynnwys y glust)
- Electrolysis
- Tatŵio (gan gynnwys colur rhannol barhaol / microlafnu)
Gwneud cais am drwydded triniaeth arbennig a/neu dystysgrif cymeradwyo eiddo
Cyn i chi ddechrau gwneud cais am drwydded triniaeth arbennig fel ymarferwr neu gymeradwyaeth ar gyfer eich eiddo busnes neu’ch cerbyd, mae’n rhaid i chi sicrhau bod gennych chi a’ch bod chi’n gallu cyflwyno tystiolaeth o’r dogfennau canlynol.
1.Dogfen adnabod i brofi’ch enw llawn a’ch dyddiad geni (mae’n rhaid i bob ymgeisydd fod yn 18 oed neu’n hŷn). Dogfennau derbyniol:
- Pasbort neu drwydded yrru ddilys.
- Cerdyn ID gyda llun o’r rhestr canlynol :
-
- trwydded preswylio biometrig,
- cerdyn ID Lluoedd Arfog EF,
- cerdyn ID gwladolyn AEE;
- cerdyn Pasbort Gwyddelig,
- visa neu drwydded waith.
2. Llun lliw diweddar o’r ymgeisydd
3. Tystysgrif Datgeliad Sylfaenol dilys (wedi’i chael o fewn 3 mis i’r dyddiad ymgeisio).
4. Dyfarniad lefel 2 rheoledig mewn Atal a Rheoli Haint ar gyfer Triniaethau Arbennig (dyfarniad a gaiff ei reoleiddio gan Gymwysterau Cymru).
5. Ffi gwneud cais am Drwydded Triniaeth Arbennig (ar gyfer ymarferwyr unigol). Mwy o wybodaeth o dan y pennawd ffioedd.
Ar gyfer thystysgrif gymeradwyo eiddo/cerbyd busnes, mae’n rhaid i chi ddarparu’r dogfennau canlynol neu gopi dilys o’r dogfennau canlynol (mae’n rhaid i’r dogfennau gwreiddiol fod ar gael i’w harchwilio yn ystod ymweliad y swyddog) a’r ffi.
1. Dogfen hunaniaeth i brofi enw llawn a dyddiad geni (mae’n rhaid i bob ymgeisydd fod yn 18 oed neu’n hŷn). Dogfennau derbyniol:
- Pasbort neu drwydded yrru ddilys.
- Cerdyn ID gyda llun o’r rhestr canlynol:
-
- trwydded preswylio biometrig,
- cerdyn ID Lluoedd Arfog EF,
- cerdyn ID gwladolyn AEE;
- cerdyn Pasbort Gwyddelig,
- visa neu drwydded waith.
2. Llun lliw diweddar ohonoch .
3. Dyfarniad lefel 2 rheoledig mewn Atal a Rheoli Haint ar gyfer Triniaethau Arbennig (dyfarniad a gaiff ei reoleiddio gan Gymwysterau Cymru).
4. Cynlluniau o’r eiddo neu’r cerbyd
5. Llun lliw diweddar o’r cerbyd
6. Ffi gwneud cais am Dystysgrif Cymeradwyo Eiddo. Mwy o wybodaeth o dan y pennawd ffioedd.
Mae’n rhaid i’ch cais gynnwys y ffi ymgeisio briodol – ni fydd ceisiadau’n cael eu hystyried heb daliad.
Dyma’r ffioedd:
Ffi i’w dalu wrth ymgeisio
Math o drwydded |
Ffi |
Ffi i’w thalu i wneud cais am Drwydded Triniaeth Arbennig (ar gyfer ymarferwyr unigol) |
£159 |
Ffi i’w thalu i wneud cais am dystysgrif cymeradwyo eiddo |
£244 |
Yn dilyn cais ac asesiad llwyddiannus i wirio eich bod chi’n cwrdd ag amodau’r Rheoliadau, byddwch yn gorfod talu ffi cydymffurfio.
Math o drwydded |
Ffi |
Ffi i’w thalu wrth gael trwydded triniaeth arbennig
|
£44 |
Ffi i’w thalu wrth gael tystysgrif cymeradwyo eiddo |
£141 |
Ffioedd eraill |
Ffi |
Safle/Cerbyd Cymeradwy - Cymeradwyaeth Dros Dro (digwyddiad atodol)* |
£385 |
Safle/Cerbyd Cymeradwy - Cymeradwyaeth Dros Dro (confensiwn/prif bwrpas)*.
|
£680 |
Amrywio Tystysgrif Safle/Cerbyd Cymeradwy (ychwanegu triniaeth).
|
£189 |
Amrywio Tystysgrif Safle/Cerbyd Cymeradwy (newid strwythurol).
|
£189 |
Amrywio Tystysgrif Safle/Cerbyd Cymeradwy (newid manylion). |
£26 |
* Bydd y tystysgrifau dros dro’n ddilys am hyd at 7 diwrnod |
Cyfnod y drwydded
Bydd y dystysgrif safle cymeradwy’n para am 3 blynedd o ddyddiad cyflwyno’r drwydded.
Rwyf wedi cofrestru gyda Cyngor Sir Ynys Mon yn barod, a oes angen i mi wneud cais?
Os ydych eisoes wedi cofrestru gyda’r Awdurdod hwn ar gyfer eich eiddo/cerbyd i gynnal aciwbigo, tyllu’r corff, electrolysis neu datŵio, byddwch yn cael trwydded drosiannol. Bydd hyn yn eich galluogi i weithredu tra byddwch yn cyflwyno’ch cais. Nid yw’n golygu eich bod wedi’ch trwyddedu/cymeradwyo.
Beth fydd yn digwydd pan fydd Cyngor Sir Ynys Mon yn derbyn fy nghais?
Bydd y cais yn cael ei wirio I sicrhau fod y cais yn gyflawn. Os oes unrhyw beth ar goll, byddwn yn cysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth. Bydd methu â darparu’r holl wybodaeth angenrheidiol gyda’ch cais yn arwain at wrthod eich cais (cyfeiriwch at y rhestr wirio ar y ffurflen gais).
Pan fydd cais boddhaol wedi’i dderbyn, bydd swyddog yn cysylltu â chi i wneud apwyntiad i ymweld â’ch eiddo/cerbyd. Bydd yr ymweliad yn ystyried y canlynol:
- eich dyletswyddau fel deiliad tystysgrif o dan Ran 4 o’r Ddeddf,
- yr amodau trwyddedu gorfodol, a
- goblygiadau peidio â chydymffurfio â’r amodau trwyddedu gorfodol.
Ar ddiwedd yr ymweliad, bydd y swyddog yn trafod unrhyw gamau pellach a all fod yn ofynnol cyn y gellir cymeradwyo eich cais.
Os caiff eich cais ei gymeradwyo, bydd eich enw a manylion eich tystysgrif cymeradwyo yn cael eu cyhoeddi ar y Cofrestr Triniaethau Arbenig.
Sut i wneud cais
Rhaid i chi wneud cais am drwydded cyn 1 Mawrth 2025.
Oni bai eich bod yn gwneud cais am y drwydded hon, ni fyddwch yn gallu masnachu ar ôl y dyddiad hwn.
Cais am drwydded ymarferydd
Mae ein ffurflen ar-lein yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd.
Ffurflen gymeradwyo mangreoedd/cerbyd
Mae ein ffurflen ar-lein yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd.
Yn y cyfamser, gallwch gysylltu â thîm Iechyd yr Amgylchedd ar 01248 750057 am ffurflen gais.