Cyngor Sir Ynys Môn

Trwyddedau gamblo a loteri


Ma’r cyngor yn gyfrifol am gyflwyno trwyddedau eiddo a mae’r Comisiwn Gamblo yn gyfrifol am gyflwyno’r trwyddedau gweithredu a phersonol.

Mae’r Ddeddf yn caniatáu tri chategori o drwyddedau

  • trwyddedau gweithredu
  • trwyddedau personol
  • trwyddedau eiddo

Mae’r Comisiwn Gamblo yn rheoleiddio gamblo er budd y cyhoedd drwy gadw gamblo’n rhydd o droseddu, sicrhau fod gamblo’n cael ei gynnal yn deg ac yn agored a gwarchod plant a’r bregus.

Bydd y Comisiwn yn dal i gyflwyno canllawiau i awdurdodau lleol ynghylch y modd y dylent reoli gamblo a darparu ar ei gyfer a gallai hynny hefyd gynnwys darpariaethau ar gyfer hysbysebu darpariaethau gamblo.

Lotrïau Cymdeithasau Bychan

Rhaid cofrestru lotrïau cymdeithasau bychan gyda’r cyngor.

Mae’r Comisiwn Hapchwarae’n darparu cyngor ar godi arian gyda lotrïau bychan.

Gellir cysylltu â’r Comisiwn Gamblo drwy ei gwefan. 

Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.