Cyngor Sir Ynys Môn

Masnachu ar y stryd


Diffinnir masnachu ar y stryd fel gwerthu, dangos neu gynnig nwyddau i'w gwerthu ar y stryd.

Mae’r diffiniad o 'stryd' yn eang iawn ac mae'n cynnwys unrhyw ffordd, llwybr troed, traeth neu ardal arall lle y mae gan y cyhoedd hawl mynediad iddynt heb dalu ac ardaloedd gwasanaeth fel a ddiffinnir dan Adran 329 Deddf Priffyrdd 1980.

Mae'r Awdurdod wedi mabwysiadu Atodlen 4 Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 i reoli masnachu ar y stryd ym mhob rhan o’i ardal.  Mae’r Awdurdod wedi dynodi'r holl strydoedd ym Môn fel 'strydoedd caniatâd' i bwrpasau masnachu ar y stryd.  Effaith y dynodiad hwn yw bod masnachu ar y stryd mewn unrhyw stryd caniatâd ym Môn wedi’i wahardd, yn amodol ar yr eithriadau cyfreithiol, heb yn gyntaf dderbyn caniatâd i fasnachu gan yr Awdurdod.

Bydd angen cael caniatâd ysgrifenedig gan y perchennog i fasnachu ar dir preifat, ac efallai y bydd angen caniatâd cynllunio cyn y gellir ystyried unrhyw gais ynghyd ac, yn ogystal, bydd angen caniatâd a gan yr Adain Eiddo os mai’r Awdurdod yw perchennog y tir.

Mae’r Polisi Masnachu ar y Stryd yn berthnasol i fasnachwyr sydd yn symud o stryd i stryd a elwir yn fasnachwyr symudol.

Mabwysiadwyd y polisi hwn er mwyn rheoli masnachu ar y stryd ac mae’n nodi safonau Cyngor Sir Ynys Môn ar gyfer penderfynu ar geisiadau am weithgareddau masnachu ar y stryd ym Môn, a’u gorfodi.

Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.