Os ydych yn dymuno defnyddio uchelseinydd yn y stryd rhwng 9pm a 8am (ar gyfer digwyddiadau cerddorol er enghraifft) rhaid i chi wneud cais i’n cynllun caniatâd uchelseinydd yn y lle cyntaf.
Yn absenoldeb caniatâd o’r fath, o dan Atodlen 2 Deddf Sŵn a Niwsans Statudol 1993, bydd y defnydd o uchelseinydd rhwng 9pm a 8am yn drosedd yn groes i adran 62 Deddf Rheoli Llygredd 1974.
Cyflwynwch eich cais o leiaf 21 diwrnod cyn y digwyddiad er mwyn galluogi’r cais i gael ei brosesu.