Cyngor Sir Ynys Môn

Trwyddedu a chofrestru tân gwyllt a ffrwydron


Os ydych yn gwerthu neu'n storio tân gwyllt, rhaid i chi gael trwydded gennym.

Dylech hefyd:

  • storio tân gwyllt yn ddiogel
  • gwybod eich ymarfer tân
  • arddangos arwydd lle caiff tân gwyllt eu cyflenwi neu eu dangos i'w cyflenwi

Gwneud cais am drwydded ar-lein

Ffïoedd ar gyfer trwydded tân gwyllt a ffrwydron

Mae ffioedd ar gyfer trwyddedau'n seiliedig ar y pellter gwahanu lleiaf ar gyfer storio'r tân gwyllt a'r ffrwydron.

Mae canllawiau ar y pellterau gwahanu sy'n angenrheidiol er mwyn storio tân gwyllt a ffrwydron ar gael ar wefan HSE (yn Saesneg yn unig).

Trwydded i storio ffrwydron ar gyfer eiddo lle mae'n rhaid cael pellter ar wahân

  • 1 flwyddyn £202
  • 2 flynedd £266
  • 3 flynedd £333
  • 4 flynedd £409
  • 5 flynedd £463

Adnewyddu trwydded i storio ffrwydron ar gyfer eiddo lle mae'n rhaid cael pellter ar wahân

  • 1 flwyddyn £94
  • 2 flynedd £161
  • 3 flynedd £226
  • 4 flynedd £291
  • 5 flynedd £357

Trwydded i storio ffrwydron lle na roddir pellter ar wahân

  • 1 flwyddyn £119
  • 2 flynedd £154
  • 3 flynedd £190
  • 4 flynedd £226
  • 5 flynedd £260

Adnewyddu trwydded i storio ffrwydron lle na roddir pellter ar wahân

  • 1 flwyddyn £59
  • 2 flynedd £94
  • 3 flynedd £132
  • 4 flynedd £166
  • 5 flynedd £202

Trwydded newydd neu adnewyddedig i gyflenwi tân gwyllt drwy'r flwyddyn am un flwyddyn

£500   

Amrywio enw neu gyfeiriad deiliad trwydded / trosglwyddo trwydded neu roi trwydded newydd yn lle trwydded goll 

£40