Cais i adnewyddu neu cais newydd
Ceir deddfwriaeth sy'n ymwneud â storio petrol yn ddiogel er mwyn atal tân a ffrwydrad a allai ddigwydd os oes ffynhonnell danio gerllaw.
Bydd angen i chi gyflwyno cais am Dystysgrif Storio Petroliwm os ydych yn weithle sy'n storio petrol lle caiff y petrol ei ddosbarthu'n uniongyrchol i danc cerbyd â motor tanio mewnol, hynny yw gorsafoedd petrol manwerthol ac anfanwerthol.
Tystysgrifau Storio Petroliwm
Cyhoeddir y tystysgrifau gan yr Awdurdod Gorfodi Petroliwm (AGP). Cyngor Sir Ynys Môn yw'r AGP ar gyfer Sir Môn, ac felly, yn gyfrifol am weinyddu a gorfodi darpariaethau o dan deddf Reoliadau Petroliwm (Cydgrynhoi) 2014.
Sylwch y bydd angen i safleoedd sydd ddim yn weithle sy'n storio symiau mawr o betrol, er enghraifft mewn cartrefi preifat, neu mewn clybiau/cymdeithasau (neu tebyg) wneud cais am drwydded storio petroliwm yn hytrach na cael tystysgrif storio.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE). Mae'r wybodaeth hon yn Saesneg.
Tystysgrifau
Mae'r tystysgrifau'n cynnwys gwybodaeth sy'n benodol i'r safle, megis y trefniadau storio, yn ogystal â manylion ynghylch dilysrwydd y dystysgrif a'r amgylchiadau lle mae'n rhaid dweud wrth yr awdurdod gorfodi am unrhyw newidiadau materol a ragnodir.
Dylai eiddo sy'n gwerthu gwirod petrolewm wedi'u hadeiladu a'u cynnal a'u cadw fel bod y cynnyrch yn cael ei ddosbarthu'n ddiogel ac nid yw'n beryglus i'r cyhoedd.
Rydym hefyd yn disgwyl bod eiddo sy'n storio gwirod petrolewm wedi'u cynnal a'u cadw mewn modd diogel a chywir, gyda gweithdrefnau rheoli a gweithredu eglur, ynghyd â staff sydd wedi'u hyfforddi'n briodol.
Ceidwad petroliwm
'Ceidwad petroliwm' yw person sy'n cadw petrol ar eiddo dosbarthu, sy'n gyfrifol am weithredu'r safle'n ddiogel a fydd hefyd o dan rwymedigaeth gyfreithiol i sicrhau bod y safle'n cydymffurfio â'r rheoliadau.
Fydd rhaid i'r 'ceidwad petroliwm':
- ddweud wrth yr Awdurdod Gorfodi Petroliwm cyn meddiannu safle ardystiedig
- sicrhau bod lluniadau wrth raddfa ar gael ar y safle i lunio rhan o'r cynllun argyfwng
- dweud wrth yr Awdurdod Gorfodi Petroliwm am unrhyw achosion, yn unol â'r canllawiau arfer gorau a dderbynnir yn genedlaethol ar adrodd am achosion, gan gynnwys gollyngiadau, difrod i osodiadau petrol ac ati
- dweud wrth yr Awdurdod Gorfodi Petroliwm os gwneir newidiadau materol a ragnodir i'r eiddo ardystiedig
- parhau i fodloni'r holl ddeddfwriaeth arall sy'n berthnasol i weithrediad diogel y safle er engrhaifft, Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ayyb. 1974, Rheoliadau Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 a Rheoliadau Sylweddau Peryglus ac Amgylchedd Ffrwydrol 2002
- dweud wrth yr Awdurdod Gorfodi Petroliwm os ydyw am roi'r gorau i feddiannu/weithredu
Newid materol a ragnodir
Mae newid materol a ragnodir i eiddo'n ymwneud â'r newidiadau canlynol:
- rhoi'r gorau i ddefnyddio un neu fwy o danciau storio petrol
- symud neu ddadgomisiynu un neu fwy o'r tanciau storio petrol yn barhaol
- gosod unrhyw danc, gwaith pibellau neu waith pibellau anwedd sy'n ymwneud â storio a dosbarthu petrol
- gosod unrhyw bwmp petrol, unrhyw bwmp neu beiriant dosbarthu modurol arall mewn lleoliad newydd
Cais newydd
Cysylltwch gyda Safonau Masnach am fwy o wybodaeth a canllawiau pellach drwy cysylltu gyda ni ar 01248 7528 40 neu drwy lenwi y ffurflen arlein ar yr ochor dde.
Cais i adnewyddu tystysgrif storio petroliwm
Cwblhewch y ffurflen ar-lein a thalwch y ffi berthnasol, os gwelwch yn dda.
Ffioedd ar gyfer trwyddedi storio petroliwm
Fydd rhaid i’r 'ceidwad petroliwm'dalu ffi blynyddol sy'n cael ei gyfrifo yn ôl uchafswm y Petroliwm sydd yn gallu ei storio ar y safle. Gellir y ceidwad ddewis i dalu am hyd at ddeng mlynedd ymlaen llaw i osgoi cynnydd posibl yn y ffioedd.
Ffioedd ar gyfer trwyddedi storio petroliwm
Swm i’w storio |
Ffi blynyddol 2024 i 2025 |
Dim mwy na 2,500 o litrau |
£48 |
Rhwng 2,500 and 50,000 o litrau |
£65 |
Mwy na 50,000 litrau |
£137 |
Gosodir ffioedd gan y Llywodraeth ganolog o dan The Health and Safety and Nuclear (Fees) (Amendment) and Gas Safety (Miscellaneous Amendment) Regulations 2024 ac maent yn destun adolygiad blynyddol.
Caniatâd dealladwy
Er budd y cyhoedd, mae'n rhaid i ni brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Felly Ni fydd caniatâd dealladwy yn berthnasol ac os nad ydych wedi clywed gennym o fewn cyfnod rhesymol, yna cysylltwch â ni.
Os oes angen rhagor o wybodaeth neu gymorth arnoch gyda'ch cais, cysylltwch â ni ar 01248 752 840 neu e-bostiwch safonaumasnach@ynysmon.llyw.cymru.
Apêl
Gall unrhyw ymgeisydd y gwrthodir trwydded apelio i'r Ysgrifennydd Gwladol.