Gall clwb wneud cais am dystysgrif adeilad clwb ar gyfer unrhyw adeilad a feddiennir a’i ddefnyddio’n rheolaidd ar gyfer dibenion clwb.
Dylid gwneud cais i’r awdurdod trwyddedu lleol, sef yr Awdurdod Lleol lle mae’r adeilad wedi ei leoli.
Dylai’r ceisiadau gael eu cyflwyno ynghyd â chynllun o’r adeilad sy’n rhaid bod mewn fformat penodol, copi o reolau’r clwb a rhaglen gweithredu’r clwb.
Mae rhaglen gweithredu’r clwb yn ddogfen sy’n rhaid bod mewn fformat penodol, ac yn cynnwys gwybodaeth am:
- weithgareddau’r clwb
- yr amser pan fo’r gweithgareddau i ddigwydd
- amserau agor
- os yw’r cyflenwadau alcohol i’w hyfed ar neu oddi ar y safle neu’r ddau
- y camau y bwriada’r clwb eu gweithredu i hyrwyddo amcanion y trwyddedu
- unrhyw wybodaeth arall sydd ei hangen.
Os oes unrhyw newidiadau i’r rheolau neu enw’r clwb cyn i’r cais gael ei bennu neu ar ôl i dystysgrif gael ei rhoi, rhaid i ysgrifennydd y clwb roi manylion i’r awdurdod trwyddedu lleol. Os yw tystysgrif yn ei lle, rhaid ei gyrru at yr awdurdod trwyddedu pan hysbysir hwy.
Os yw tystysgrif yn ei lle a bod cyfeiriad cofrestru’r clwb yn newid, rhaid i’r clwb hysbysu’r awdurdod trwyddedu lleol o’r newid a darparu’r dystysgrif gyda’r hysbysiad.
Gall clwb wneud cais i awdurdod trwyddedu lleol i newid tystysgrif. Dylai’r dystysgrif gael ei gyrru gyda’r cais.
Gall yr awdurdod trwyddedu lleol archwilio’r adeilad cyn yr ystyrir y cais.
Gall fod ffi yn daladwy am unrhyw fath o gais perthnasol i dystysgrif adeilad clwb.