Cyngor Sir Ynys Môn

Garej sengl 28 Pennant, Llangefni LL77 7NP


Amcanbris

£8,000

Amcanbris

  • Cyfle i brynu garej sengl.
  • I'w werthu rhydd-ddaliad â meddiant gwag.
  • Wedi'i leoli o fewn Ystâd Pennant, Llangefni.

Disgrifiad

Garej gyda ddyfnder oddeutu 17' 5" (5.00 m) a lled oddeutu 9" (2.5 m). Mae’r garej wedi’i adeiladu o frics solet gyda drws metel a throsodd o dan dô rhychog.

Cyfarwyddiadau

O’r B5109, cymerwch y troad i mewn i Ystad Pennant ac yna'r i’r chwith a bydd y garej i’w weld ar yr ochr chwith. 

Daliadaeth

Daliadaeth rydd gyda meddiant gwag. Bydd y Prynwr yn gyfrifol am dalu ffioedd Cyfreithiol y Gwerthwr, bydd hyn oddeutu £734.50. 

Datganiadau o ddiddordeb

Bydd yr eiddo’n cael ei werthu trwy dendr anffurfiol. 

Dyddiad cau tendr hanner dydd, Dydd Gwener 6 Mawrth 2026.

Dylai partïon sydd am fynegi diddordeb yn yr eiddo hwn drwy gysylltu â’r Adain Eiddo, Cyngor Sir Ynys Môn ar 01248 752 241 / 01248 752 245 neu drwy anfon ebost i YmholiadauEiddo@ynysmon.llyw.cymru

Gweld yr eiddo

Rhaid gwneud apwyntiad i weld yr eiddo a gellir trefnu hyn drwy gysylltu â’r Adain Eiddo, Cyngor Sir Ynys Môn ar 01248 752 241 / 01248 752 245 neu drwy anfon ebost i YmholiadauEiddo@ynysmon.llyw.cymru

Nodyn pwysig

  • Nid yw'r manylion hyn yn rhan o unrhyw gynnig na chontract.
  • Mae'r holl ddisgrifiadau, ffotograffau a chynlluniau ar gyfer arweiniad yn unig ac ni ddylid dibynnu arnynt fel datganiadau neu gynrychioliadau o ffaith. Mae'r holl ardaloedd, mesuriadau neu bellteroedd yn rhai bras. Mae'r testun, y ffotograffau a'r cynlluniau ar gyfer arweiniad yn unig ac nid ydynt o reidrwydd yn gynhwysfawr. Rhaid i unrhyw ddarpar brynwr fodloni ei hun ar gywirdeb y wybodaeth yn y manylion trwy archwiliad neu fel arall. Ni ddylid cymryd yn ganiataol bod gan yr eiddo'r holl hawliau cynllunio, rheoliadau adeiladu neu gydsyniadau eraill angenrheidiol. Nid yw Cyngor Sir Ynys Môn (“CSYM”) wedi profi unrhyw gyfarpar, offer, gosodiadau, ffitiadau na gwasanaethau ac nid ydynt wedi gwirio eu bod yn gweithio'n iawn, yn addas at eu diben, nac o fewn perchnogaeth y cyngor.
  • Nid yw CSYM yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw gostau darpar brynwyr wrth archwilio eiddo sydd wedi'u gwerthu, eu gosod neu eu tynnu'n ôl.
  • Oni ddywedir yn wahanol, nid yw'r prisiau a'r rhenti a ddyfynnir yn cynnwys TAW. Yn amodol ar gontract.
  • Os oes unrhyw beth o bwys arbennig i chi, cysylltwch ag Adain Eiddo CSYM a byddwn yn ceisio gwirio'r wybodaeth ar eich rhan.

Ffotograff

Garage at Pennant Estate, Llangefni

Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.