Gwasanaeth chwiliadau pridiannau tir lleol yn newid o 3 Rhagfyr
Ni fydd Cyngor Sir Ynys Môn yn darparu gwasanaeth chwiliadau pridiannau tir lleol mwyach o 3 Rhagfyr 2026 ymlaen.
Caiff ein cofrestr pridiannau tir ei symud i gofrestr genedlaethol y Gofrestrfa Tir (HM Land Registry).
Fedrwch ddefnyddio’r gwasanaeth drwy:
- portal a gwefan Gofrestrfa Tir
- GOV.UK
Chwiliadau LLC1 a CON29
LLC1
Nid yw Cyngor Sir Ynys Môn yn derbyn ceisiadau LLC1 mwyach.
Ni fyddwn yn ymateb i unrhyw geisiadau LLC1 a dderbyniwn.
CON29
Byddwn yn parhau i ymateb i ymholiadau CON29.
Dysgwch ragor am chwiliadau pridiannau tir lleol
Gallwch ddarganfod mwy am chwiliadau pridiannau tir lleol ar wefan GOV.UK.
Gallwn ddarparu gwybodaeth chwiliadau ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno prynu eiddo neu dir o fewn ardal yr awdurdod lleol.
Mae’r chwiliad yn gyfres o gwestiynau safonol wedi eu dylunio i roi cymaint o wybodaeth â phosib i’r darpar brynwr am yr eiddo neu dir.
Fel arfer, twrnai neu drosglwyddwr trwyddedig sydd yn gofyn am chwiliad.
LLC1
Ers 12 Tachwedd 2026, nid yw’r Cyngor yn derbyn ceisiadau LLC1. O 3ydd Rhagfyr, bydd ein cofrestr pridiannau tir yn mudo i gofrestr genedlaethol y Gofrestrfa Tir. Gallwch ddarganfod mwy am chwiliadau pridiannau tir lleol ar wefan GOV.UK.
Con29
Holiadur am y tir/eiddo wedi’i anfon i adrannau amrywiol o fewn y cyngor yw chwiliad Con29.
Mae rhan 1 yn rhoi atebion i gyfres o gwestiynau safonol am y eiddo ac yn nodi manylion am unrhyw gynlluniau lleol ar gyfer yr ardal, rheoliadau adeiladu a phenderfyniadau cynllunio, cynlluniau traffig, cytundebau ffyrdd ac ati.
Mae rhan 2 yn rhoi atebion i ymholiadau ychwanegol os gofynnir rhai, er enghraifft, llwybrau cyhoeddus, hysbysiadau cwblhau ac ati.
Chwiliad personol
Ers 6 Tachwedd 2026, nid yw’r Cyngor yn derbyn ceisiadau am chwiliadau personol. O 3 Rhagfyr, ein bydd ein cofrestr pridiannau tir yn mudo i gofrestr genedlaethol y Gofrestrfa Tir. Gallwch ddarganfod mwy am chwiliadau pridiannau tir lleol ar wefan GOV.UK.
Sut i gyflwyno chwiliad CON29
Ar-lein
NLIS (Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Cenedlaethol) - ar gael yn Saesneg yn unig
Drwy ebost
landcharges@ynysmon.llyw.cymru
Drwy post
Yr Uned Chwiliadau Lleol
Yr Adran Gyfreithiol
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
LL77 7TW
Ffôn: 01248 752 044
Wrth gyflwyno chwiliad, bydd angen cynnwys:
- copïau gwreiddiol a dyblygiadau o ddogfenn chwiliad Con29 (nid oes angen eu gyrru’n ddyblyg drwy e-bost)
- 2 gopi o’r Cynllun Arolwg Ordnans gyda’r holl eiddo i’w chwilio i’w amlinellu’n eglur mewn coch (1 cynllun sydd ei hangen drwy e-bost).
- Y ffi perthnasol (gweler isod).
Mae dogfennau chwiliad Con29 ar gael gan unrhyw werthwr deunyddiau ysgrifennu cyfreithiol.
Ffioedd
I gael y ffioedd am chwiliadau drwy ebost neu chwiliadau personol galwch (01248) 752 044 neu gyrrwch e-bost i landcharges@ynysmon.llyw.cymru
Sieciau yn daladwy i Cyngor Sir Ynys Môn (siec twrnai nid siec y client).
Byddwn yn darparu derbynebau TAW fel sy'n ofynnol gan y gyfraith.
Ein rhif TAW yw: 650 980 622
Mae’r amser ar gyfer dychwelyd chwiliad pridiannau tir hyd at 10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn y cais, cynllun a’r ffi cywir.