Cyngor Sir Ynys Môn

I'w osod: Fron Heulog, Cemaes


Y cyfle

  • Tir amaethyddol (88.18 acer)
  • Adeiladau amaethyddol
  • Tŷ 3 ystafell wely
  • Safle 89.35 acer

Mae fferm o fewn stad mân-ddaliadau’r Cyngor Sir Ynys Môn wedi dod ar gael i’w gosod gan agor y drws ar gyfer ffermwyr newydd a phrofiadol i allu byw, gweithio ac adeiladu busnes ffyniannus ar Môn Mam Cymru – Gwlad y Medra. 

Gwahoddir ceisiadau am denantiaeth y daliad uchod sydd i'w osod ar denantiaeth busnes fferm 5 mlynedd gyda’r bwriad i adnewyddu ar ddiwedd y cyfnod yn amodol i berfformiad.

Gweledigaeth Cyngor Sir Ynys Môn yw creu Ynys Môn iach a llewyrchus lle gall pobl ffynnu. Rydym yn chwilio am denant brwdfrydig, gweithgar ac arloesol y mae eu gwerthoedd ac egwyddorion cyffredinol yn cyd-fynd â’r rhai hynny yr ydym yn eu defnyddio er mwyn darparu amcanion ein Cynllun y Cyngor. 

Y broses ymgeisio

Fe ddylai darpar ymgeiswyr gysylltu â rheolwr stadau gwledig y cyngor er mwyn gofyn am ffurflen gais, sydd ar gael am bris o £5. 

Rhaid i ymgeiswyr ddychwelyd y ffurflen gais a chynnwys cynllun busneserbyn hanner dydd, Dydd Gwener 13 Tachwedd 2026. 

Bydd yr holl geisiadau a dderbynnir ar neu cyn dyddiad cau y tendr yn cael eu hystyried a’u hasesu yn unol â’n meini prawf asesu cyn y bydd rhestr fer yn cael ei llunio. Ni fydd tendrau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau yn cael eu hystyried.  

Meini prawf asesu

Mae’r cyngor wedi ymrwymo i broses ddethol deg, dryloyw a chynhwysol. Ni fydd unrhyw ffafriaeth yn cael ei dangos ar sail nodweddion personol megis oedran, rhyw neu gefndir.  Bydd asesiadau’n canolbwyntio ar allu’r ymgeisydd i fodloni’r meini prawf a nodir isod yn unig. 

  • Gallu ac ymroddiad i ffermio ar eu cyfrif eu hunain: gan gyfeirio at dystiolaeth o gymwysterau a phrofiad. Mae’n ofyniad statudol mai dim ond yr ymgeiswyr sy’n bodloni maen prawf 3(1) o Reoliadau Mân Ddaliadau (Dewis Tenantiaid) 1970 y gellir eu hystyried.
  • Gallu ac ymrwymiad i dalu rhent y farchnad: gyda chefnogaeth tystiolaeth o gynllunio ariannol cadarn yn ystod tymor y denantiaeth.
  • Arddangos hyfywedd ariannol: yn cynnwys cyllidebau realistig, rhagamcanion arian parod a thystiolaeth o fynediad at gyfalaf gwaith.  
  • Potensial i ddatblygu: gan ddangos sut bydd Fron Heulog yn cefnogi datblygiad busnes, datblygiad sgiliau a chynaliadwyedd hirdymor.
  • Gallu i ffermio’r lleoliad yn dda: tystiolaeth o beiriannau ac offer sydd gennych ynghyd â chynllun clir ar gyfer lefelau da byw digonol, stiwardiaeth amgylcheddol a rheolaeth tir cyfrifol.
  • Ymrwymiad i fyw ar y safle: defnyddio’r tŷ fferm fel prif gartref yr ymgeisydd er mwyn cefnogi rheolaeth effeithiol Fron Heulog ac integreiddiad i’r gymuned leol. 

Rhestr fer a chyfweliadau

Bydd rhestr fer yn cael ei pharatoi yn seiliedig ar y tendrau a gyflwynir. Bydd yr ymgeiswyr hynny sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu hysbysu yn ysgrifenedig ac yn cael eu gwahodd i fynychu cyfweliad a gynhelir yn ystod Ionawr 2027.  

Bydd y cyngor hefyd yn trefnu i ymweld â thir neu ddaliadau presennol yr ymgeisydd, os yn berthnasol, er bydd dyddiadau penodol yr ymweliadau hyn yn cael eu cadarnhau gyda’r ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer. 

Geirda a chynnig

Bydd yr ymgeisydd a ffafrir yn destun:

  • geirda boddhaol – un gan gyflogwr presennol neu flaenorol yn ddelfrydol
  • gwiriad credyd boddhaol 

Yn dilyn y gwiriadau hyn, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cynnig tenantiaeth busnes fferm o’r daliad (yn amodol ar gontract) i ddechrau ar 13 Mai 2027. 

Ymholiadau

Ceir pecyn manylion a ffurflenni cais gan:

Adain Eiddo
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfa’r Sir
Llangefni
LL77 7TW 

Cysylltwch â’r Adain Eiddo ar 01248 752 255 neu YmholiadauEiddo@ynysmon.llyw.cymru