Gwahoddir tendrau am drwydded pori ar draws y llecynau o dir canlynol:
Tendr tir pori er lles cadwraeth
Rhif llain | Tir | Lleoliad what3words | Erw | Math o dda fyw a ganiateir | Graddfa stoc canllaw |
5a |
Parc Gwledig Morglawdd, Caergybi (LL65 1YG) |
populate.extra.goodbye |
4.72 |
Gwartheg aeddfed |
6 -7 |
5b |
Parc Gwledig Morglawdd, Caergybi (LL65 1YG) |
mirror.nature.motoring |
5.76 |
Gwartheg aeddfed |
7 - 9 |
5d |
Parc Gwledig Morglawdd, Caergybi (LL65 1YG) |
client.additives.booster |
3.74 |
Gwartheg aeddfed |
5 - 6 |
|
|
Cyfanswm: |
14.22 |
Cyfanswm: |
18 - 22 |
Cyfnod y Drwydded i feddiannu’r lleiniau yw 7 mis yn ystod:
- 1 Medi 2025 i 31 Mawrth 2026
Mae'r tiroedd yn wag ar hyn o bryd. Croeso i bartïon â diddordeb i’w gerdded heb oruchwyliaeth cyn cyflwyno cynnig.
Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus sicrhau:
- Bod gan ei stoc fynediad at ddŵr gan nad oes cyflenwad i'r caeau
- Bydd ei stoc yn wisgo coleri 'Nofence' a ddarperir gan y Cyngor, gyda'r ymgeisydd yn monitro'r stoc trwy ap cysylltiedig y coleri.
Ceir rhagor o fanylion a ffurflenni dendr gan:
Adain Eiddo
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfa’r Sir
Llangefni
LL77 7TW
Ffôn: 01248 752 250 neu 01248 752 300
E-bost: YmholiadauEiddo@ynysmon.llyw.cymru
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn tendrau yw hanner dydd, dydd Mercher 13 Awst 2025
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at
digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.