Cyngor Sir Ynys Môn

Uned 1 Parc Diwydiannol Mona Gwalchmai, LL65 4RJ


a picture of a building which is Unit 1 Mona Industrial Park, Gwalchmai, LL65 4RJ

I’w osod: Uned diwydiannol ysgafn

Canllaw rhent 

£6000 + TAW y flwyddyn 

Croesawir cynigion rhent

Dyddiad cau

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 13 Tachwedd 2026

Nodweddion

  • Arwynebedd mewnol gros oddeutu  97.22m2 (987.80 troedfedd sgwâr)
  • Wedi’i lleoli wrth mynedfa Parc Diwydiannol Mona
  • Lleoliad delfrydol yng nghanol yr Ynys ac yn arwain syth at yr A5
  • Defnydd cynllunio sefydledig yn dod o fewn dosbarthiadau B1, B2 a B8
  • Les warchodedig o dan Ddeddf Landlord a Thenant
  • Les hyblyg gyda chymal torri tenant 3 mis

Disgrifiad

Swyddfa ysgafn gyda lle storio bach wedi'i lleoli ym Mharc Diwydiannol Mona, sy'n cynnig cysylltiadau ffordd da â gwibffordd yr A55 ac sy'n arwain yn syth at yr A5. Mae'r uned yn darparu cyfanswm arwynebedd llawr mewnol gros o 91.77m² (987.80 troedfedd sgwâr). Ceir mynediad i'r uned drwy ddrws ffrynt rhannol wydrog ac mae cyfleusterau parcio a rennir ar gael. Mae'r defnydd cynllunio sefydledig yn dod o fewn dosbarth B1. Bydd prydles atgyweirio ac yswirio mewnol ar gael. Mae TAW yn daladwy ar yr eiddo.

Gwasanaethau

Deellir bod yr uned yn elwa ar gyflenwad trydan tri cham a phrif gyflenwad dŵr a draenio. Awgrymir bod partïon sydd â diddordeb yn sicrhau bod y darpariaethau gwasanaeth yn addas ar gyfer eu defnydd arfaethedig.

Telerau’r brydles  

  • Prydles warchodedig 3 blynedd (Deddf Landlord a Thenant 1954)
  • Rhent misol yn daladwy ymlaen llaw
  • Tenant yn gyfrifol am waith cynnal a chadw mewnol
  • Ffi paratoi prydles: £651.99 + TAW (cyfrifoldeb y tenant)
  • Blaendal diogelwch sy'n cyfateb i chwe mis o rent (a gedwir o dan weithred blaendal; ar wahân i'r taliad rhent cychwynnol)

EPC

Maer tystysgrif perfformiad ynni wedi ei gofrestru yn (E)

Ceisiadau

Mae’r uned ar gael yn amodol ar gais llwyddiannus. Bydd angen darparu cyfeirnod banc, dau gyfeirnod masnach, cynllun busnes a bydd gwiriadau credyd yn cael eu cynnal.

Mynegi diddordeb a gweld yr eiddo

I fynegi diddordeb neu i drefnu ymweliad, cysylltwch â:

Cyngor Sir Ynys Môn – Adain Eiddo
Ffôn: 01248 752245 / 752250
E-bost: YmholiadauEiddo@ynysmon.llyw.cymru

Dim ond drwy apwyntiad y gellir gweld yr eiddo.

Nodyn pwysig

  •  Nid yw'r manylion hyn yn rhan o unrhyw gynnig na chontract.
  • Mae'r holl ddisgrifiadau, ffotograffau a chynlluniau ar gyfer arweiniad yn unig ac ni ddylid dibynnu arnynt fel datganiadau neu gynrychioliadau o ffaith. Mae'r holl ardaloedd, mesuriadau neu bellteroedd yn rhai bras. Mae'r testun, y ffotograffau a'r cynlluniau ar gyfer arweiniad yn unig ac nid ydynt o reidrwydd yn gynhwysfawr. Rhaid i unrhyw ddarpar brynwr fodloni ei hun ar gywirdeb y wybodaeth yn y manylion trwy archwiliad neu fel arall. Ni ddylid cymryd yn ganiataol bod gan yr eiddo'r holl hawliau cynllunio, rheoliadau adeiladu neu gydsyniadau eraill angenrheidiol. Nid yw Cyngor Sir Ynys Môn (“CSYM”) wedi profi unrhyw gyfarpar, offer, gosodiadau, ffitiadau na gwasanaethau ac nid ydynt wedi gwirio eu bod yn gweithio'n iawn, yn addas at eu diben, nac o fewn perchnogaeth y cyngor.
  •  Nid yw CSYM yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw gostau darpar brynwyr wrth archwilio eiddo sydd wedi'u gwerthu, eu gosod neu eu tynnu'n ôl.
  •  Oni ddywedir yn wahanol, nid yw'r prisiau a'r rhenti a ddyfynnir yn cynnwys TAW. Yn amodol ar gontract.
  • Os oes unrhyw beth o bwys arbennig i chi, cysylltwch ag Adain Eiddo CSYM a byddwn yn ceisio gwirio'r wybodaeth ar eich rhan.