Cyngor Sir Ynys Môn

Uned 8 Parc Diwydiannol Mona, Gwalchmai, Caergybi LL65 4RJ


Unit-Uned-8-Mona

I’w osod: Uned diwydiannol ysgafn

Canllaw rhent 

£10,100 + TAW y flwyddyn

Nodweddion

  • Arwynebedd mewnol gros o oddeutu 197.66 m2 (2,127.60 troedfedd sgwâr)
  • Wedi’i lleoli ger mynedfa Parc Diwydiannol sefydledig Mona
  • Lleoliad yng nghanol yr Ynys, gyda mynediad uniongyrchol i’r A5
  • Defnydd cynllunio sefydledig yn dod o fewn dosbarthiadau B1, B2 a B8
  • Les warchodedig o dan Ddeddf Landlord a Thenant
  • Les 3 blynedd gyda chymal torri tenant 3 mis

Disgrifiad

Uned ddiwydiannol gyda storfa fach a lle swyddfa wedi'i lleoli ym Mharc Diwydiannol Mona, gyda chysylltiadau ffordd da â gwibffordd yr A55 a mynediad uniongyrchol i'r A5. Mae'r uned yn darparu cyfanswm arwynebedd mewnol gros o 197.66 m² (2,127.60 troedfedd sgwâr). Ceir mynediad i'r uned drwy ddrws ffrynt rhan wydrog neu ddrws roler sy'n mesur 3.3 m o led a 3.7 m o uchder. Mae cyfleusterau parcio a rennir hefyd ar gael. Mae'r defnydd cynllunio sefydledig yn dod o fewn dosbarthiadau B1, B2 a B8. Bydd prydles atgyweirio ac yswirio mewnol ar gael. Mae'r eiddo wedi'i ddewis ar gyfer TAW.

Gwasanaethau

Deellir bod yr uned wedi’i chysylltu â chyflenwad trydan tair gwedd, y prif gyflenwad dŵr a’r brif system ddraenio. Dylai partïon sydd â diddordeb geisio cadarnhad bod y gwasanaethau’n addas ar gyfer eu defnydd arfaethedig eu hunain.

Telerau'r brydles

  • Brydles warchodedig 3 blynedd (Deddf Landlord a Thenant 1954)
  • Rhent misol yn daladwy ymlaen llaw
  • Tenant yn gyfrifol am gynnal a chadw mewnol
  • Ffi paratoi prydles: £651.99 + TAW (cyfrifoldeb y tenant)
  • Blaendal diogelwch sy'n cyfateb i chwe mis o rent (a gadwir o dan weithred blaendal; ar wahân i'r taliad rhent cychwynnol)

EPC

Mae gan yr uned dystysgrif perfformiad ynni â sgôr E.                                              

Cyflwyno cais

Mae'r uned ar gael i'w gosod yn amodol ar gais llwyddiannus. Bydd y broses ymgeisio'n cynnwys darparu geirda banc, dau eirda masnach a chynllun busnes, yn ogystal â gwiriad credyd.

Mynegi diddordeb a gweld yr eiddo

I fynegi diddordeb neu i drefnu ymweliad, cysylltwch â:

Cyngor Sir Ynys Môn – Adain Eiddo
Ffôn: 01248 752245 / 752250
E-bost: YmholiadauEiddo@ynysmon.llyw.cymru

Deddf camliwio

Nodyn pwysig

  • Nid yw'r manylion hyn yn rhan o unrhyw gynnig na chontract.
  • Mae'r holl ddisgrifiadau, ffotograffau a chynlluniau ar gyfer arweiniad yn unig ac ni ddylid dibynnu arnynt fel datganiadau neu gynrychioliadau o ffaith. Mae'r holl ardaloedd, mesuriadau neu bellteroedd yn rhai bras. Mae'r testun, y ffotograffau a'r cynlluniau ar gyfer arweiniad yn unig ac nid ydynt o reidrwydd yn gynhwysfawr. Rhaid i unrhyw ddarpar brynwr fodloni ei hun ar gywirdeb y wybodaeth yn y manylion trwy archwiliad neu fel arall. Ni ddylid cymryd yn ganiataol bod gan yr eiddo'r holl hawliau cynllunio, rheoliadau adeiladu neu gydsyniadau eraill angenrheidiol. Nid yw Cyngor Sir Ynys Môn (“CSYM”) wedi profi unrhyw gyfarpar, offer, gosodiadau, ffitiadau na gwasanaethau ac nid ydynt wedi gwirio eu bod yn gweithio'n iawn, yn addas at eu diben, nac o fewn perchnogaeth y cyngor.
  •  Nid yw CSYM yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw gostau darpar brynwyr wrth archwilio eiddo sydd wedi'u gwerthu, eu gosod neu eu tynnu'n ôl.
  •  Oni ddywedir yn wahanol, nid yw'r prisiau a'r rhenti a ddyfynnir yn cynnwys TAW. Yn amodol ar gontract.
  • Os oes unrhyw beth o bwys arbennig i chi, cysylltwch ag Adain Eiddo CSYM a byddwn yn ceisio gwirio'r wybodaeth ar eich rhan.