Cyngor Sir Ynys Môn

Uned 2 Parc Diwydiannol Mona, Gwalchmai, Caergybi LL65 4RJ


Rhent:

£10,335 + TAW y Flwyddyn

Nodweddion

  • Arwynebedd mewnol gros oddeutu 189.43 m2 (2,039 troedfedd sgwâr)
  • Wedi’i lleoli wrth mynedfa Parc Diwydiannol Mona
  • Lleoliad delfrydol yng nghanol yr Ynys ac yn arwain syth at yr A5
  • Defnydd cynllunio sefydledig yn dod o fewn dosbarthiadau B1, B2 a B8
  • Les warchodedig o dan Ddeddf Landlord a Thenant
  • Les hyblyg gyda chymal torri tenant 3 mis

Disgrifiad

Uned ddiwydiannol ysgafn wedi'i lleoli ar Barc Diwydiannol Mona, yn agos i Gwibffordd yr A55 ac yn arwain syth at yr A5. Mae'r uned yn darparu cyfanswm arwynebedd gros mewnol oddeutu 189.43m² (2,039 t sg). Ceir mynediad i'r uned trwy ddrws ffrynt rhan wydrog neu drwy ddrws roler 3.3m o led x 3.7m uchel ac mae cyfleusterau parcio a rennir hefyd ar gael. Y defnydd cynllunio sefydledig yn dod o fewn dosbarthiadau B1, B2 a B8. Rydym yn cynnig prydles atgyweirio ac yswirio mewnol. Telir TAW ar yr eiddo.

Gwasanaethau

Deellir bod yr uned wedi eu cysylltu i’r prif gyflenwad dŵr, trydan tair gwedd a’r brif system ddraenio. Awgrymir bod partïon sydd â diddordeb yn sicrhau bod y darpariaethau yn  addas ar gyfer eu defnydd arfaethedig.

Telerau’r brydles  

  • Brydles warchodedig 3 blynedd (Deddf Landlord a Thenant 1954)
  • Rhent misol yn daladwy ymlaen llaw
  • Tenant yn gyfrifol am gynnal a chadw mewnol
  • Ffi paratoi prydles: £699.37 + TAW (cyfrifoldeb y tenant)
  • Blaendal diogelwch sy'n cyfateb i chwe mis o rent (a gadwir o dan weithred blaendal; ar wahân i'r taliad rhent cychwynnol)

EPC

Maer tystysgrif perfformiad ynni wedi ei gofrestru yn (D)

Cyflwyno cais

Mae'r uned ar gael i'w gosod, yn amodol ar gais llwyddiannus, a fydd yn cynnwys darparu cyfeirnod banc, dau gyfeirnod masnach, cynllun busnes a gwiriad cyfeirnod credyd.

Gweld yr unedau

I fynegi eich diddordeb, cysylltwch ag Adain Eiddo Cyngor Sir Ynys Môn ar 01248 752245 / 752250 neu YmholiadauEiddo@ynysmon.llyw.cymru Dim ond trwy apwyntiad yn unig y gellir gwylio.

Nodyn pwysig

  1. Nid yw'r manylion hyn yn rhan o unrhyw gynnig na chontract.
  2. Mae'r holl ddisgrifiadau, ffotograffau a chynlluniau ar gyfer arweiniad yn unig ac ni ddylid dibynnu arnynt fel datganiadau neu gynrychioliadau o ffaith. Mae'r holl ardaloedd, mesuriadau neu bellteroedd yn rhai bras. Mae'r testun, y ffotograffau a'r cynlluniau ar gyfer arweiniad yn unig ac nid ydynt o reidrwydd yn gynhwysfawr. Rhaid i unrhyw ddarpar brynwr fodloni ei hun ar gywirdeb y wybodaeth yn y manylion trwy archwiliad neu fel arall. Ni ddylid cymryd yn ganiataol bod gan yr eiddo'r holl hawliau cynllunio, rheoliadau adeiladu neu gydsyniadau eraill angenrheidiol. Nid yw Cyngor Sir Ynys Môn (“CSYM”) wedi profi unrhyw gyfarpar, offer, gosodiadau, ffitiadau na gwasanaethau ac nid ydynt wedi gwirio eu bod yn gweithio'n iawn, yn addas at eu diben, nac o fewn perchnogaeth y Cyngor.
  3. Nid yw CSYM yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw gostau darpar brynwyr wrth archwilio eiddo sydd wedi'u gwerthu, eu gosod neu eu tynnu'n ôl.
  4. Oni ddywedir yn wahanol, nid yw'r prisiau a'r rhenti a ddyfynnir yn cynnwys TAW. Yn amodol ar gontract.
  5.  Os oes unrhyw beth o bwys arbennig i chi, cysylltwch ag Adain Eiddo CSYM a byddwn yn ceisio gwirio'r wybodaeth ar eich rhan.

Unit_2_Mona

Efallai na fydd y ffeil yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.