Cyngor Sir Ynys Môn

Uned 16, Parc Diwydiannol Penrhos, Caergybi, LL65 2FD


Unit-16-Holyhead

I’w osod: Uned diwydiannol ysgafn

Canllaw rhent 

£8000 y flwyddyn 

Croesawir cynigion rhent

Nodweddion

  • Arwynebedd mewnol gros o oddeutu 146.27 m² (1,574.50 troedfedd sgwâr)
  • Wedi’i lleoli ym Mharc Diwydiannol sefydledig Penrhos
  • Lleoliad yng ngorllewin yr Ynys, 1 filltir i’r de o ganol tref Caergybi, gyda mynediad i’r A55 a’r porthladd gerllaw
  • Defnydd cynllunio sefydledig yn dod o fewn dosbarthiadau B1, B2 a B8
  • Les warchodedig o dan Ddeddf Landlord a Thenant
  • Les 3 blynedd gyda chymal torri tenant 3 mis

Disgrifiad

Uned ddiwydiannol gyda thoiled a chegin fach. Wedi’i lleoli ym Mharc Diwydiannol Penrhos, gyda chysylltiadau ffordd da â gwibffordd yr A55 a Phorthladd Caergybi gerllaw. Mae’r uned yn darparu cyfanswm arwynebedd mewnol gros o 146.27 m² (1,574.50 troedfedd sgwâr). Ceir mynediad i’r uned drwy ddrws ffrynt neu ddrws roler sy’n mesur 3.3 m o led a 3.7 m o uchder. Mae cyfleusterau parcio a rennir hefyd ar gael. Mae’r defnydd cynllunio sefydledig yn dod o fewn dosbarthiadau B1, B2 a B8. Bydd prydles atgyweirio ac yswirio mewnol ar gael.

Gwasanaethau

Dellir bod yr uned yn elwa ar gyflenwad trydan tri cham a phrif gyflenwad dŵr a draenio. Awgrymir bod partïon sydd â diddordeb yn sicrhau bod y darpariaethau gwasanaeth yn addas ar gyfer eu defnydd arfaethedig.

Telerau’r brydles  

  • Brydles warchodedig 3 blynedd (Deddf Landlord a Thenant 1954).
  • Rhent misol yn daladwy ymlaen llaw. Tenant yn gyfrifol am gynnal a chadw mewnol.
  • Ffi paratoi prydles: £651.99 + TAW (cyfrifoldeb y tenant).
  • Blaendal diogelwch sy'n cyfateb i chwe mis o rent (a gadwir o dan weithred blaendal; ar wahân i'r taliad rhent cychwynnol).

EPC

Mae gan yr uned dystysgrif perfformiad ynni â sgôr (D).

Ceisiadau

Mae’r uned ar gael yn amodol ar gais llwyddiannus. Bydd angen darparu cyfeirnod banc, dau gyfeirnod masnach, cynllun busnes a bydd gwiriadau credyd yn cael eu cynnal.

Mynegi diddordeb a gweld yr eiddo

I fynegi diddordeb neu i drefnu ymweliad, cysylltwch â:

Cyngor Sir Ynys Môn – Adain Eiddo
Ffôn: 01248 752245 / 752250
E-bost: YmholiadauEiddo@ynysmon.llyw.cymru

Dim ond drwy apwyntiad y gellir gweld yr eiddo.

Nodyn pwysig

  •  Nid yw'r manylion hyn yn rhan o unrhyw gynnig na chontract.
  • Mae'r holl ddisgrifiadau, ffotograffau a chynlluniau ar gyfer arweiniad yn unig ac ni ddylid dibynnu arnynt fel datganiadau neu gynrychioliadau o ffaith. Mae'r holl ardaloedd, mesuriadau neu bellteroedd yn rhai bras. Mae'r testun, y ffotograffau a'r cynlluniau ar gyfer arweiniad yn unig ac nid ydynt o reidrwydd yn gynhwysfawr. Rhaid i unrhyw ddarpar brynwr fodloni ei hun ar gywirdeb y wybodaeth yn y manylion trwy archwiliad neu fel arall. Ni ddylid cymryd yn ganiataol bod gan yr eiddo'r holl hawliau cynllunio, rheoliadau adeiladu neu gydsyniadau eraill angenrheidiol. Nid yw Cyngor Sir Ynys Môn (“CSYM”) wedi profi unrhyw gyfarpar, offer, gosodiadau, ffitiadau na gwasanaethau ac nid ydynt wedi gwirio eu bod yn gweithio'n iawn, yn addas at eu diben, nac o fewn perchnogaeth y cyngor.
  •  Nid yw CSYM yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw gostau darpar brynwyr wrth archwilio eiddo sydd wedi'u gwerthu, eu gosod neu eu tynnu'n ôl.
  •  Oni ddywedir yn wahanol, nid yw'r prisiau a'r rhenti a ddyfynnir yn cynnwys TAW. Yn amodol ar gontract.
  • Os oes unrhyw beth o bwys arbennig i chi, cysylltwch ag Adain Eiddo CSYM a byddwn yn ceisio gwirio'r wybodaeth ar eich rhan.