Cyngor Sir Ynys Môn

Uned 11, stad ddiwydiannol Pen yr Orsedd, Llangefni, LL77 7AW


Uned-Unit-11-Llangefni

I’w osod – uned cynhyrchu bwyd o safon uchel

Rhent Canllaw: 

 £16,000 - £20,000 y flwyddyn (gan gynnwys TAW).

Gwahoddir cynigion rhent. 

Nodweddion

  • Uned gynhyrchu bwyd o safon uchel, wedi’i ffitio’n llawn
  • Cyfle prin ac yn cael ei geisio’n helaeth
  • Wedi’i lleoli mewn ardal ddiwydiannol sefydledig yn Llangefni
  • Mynediad da i wibffordd yr A55
  • Gorffeniad hylan safon bwyd drwy’r uned
  • Ardaloedd cynhyrchu, paratoi a glân ar wahân
  • Mannau newid staff a rheolaethau hylendid penodol
  • Mynediad llwytho drwy ddrws rholio
  • Llawr mezzanine yn bresennol (ddim yn gydymffurfio, defnydd cynnal a chadw yn unig, heb ei gynnwys yn y rhent)
  • Cyfle i’r tenant uwchraddio’r mezzanine yn amodol ar ganiatadau a Thrwydded ar gyfer Addasiadau

Disgrifiad o'r eiddo

Mae uned 11 yn uned gynhyrchu bwyd fodern wedi’i lleoli ar Stad Ddiwydiannol Pen yr Orsedd yn Llangefni.

Mae’r uned wedi’i ffitio allan i safon uchel sy’n addas ar gyfer gweithgynhyrchu a phrosesu bwyd. Mae’n cynnwys lloriau resin, cladin wal hylan, arwynebau gwaith dur di-staen a sinciau masnachol. Ceir sawl gorsaf golchi dwylo gyda rheolaethau hylendid integredig.

Mae’r cynllun yn cefnogi llif gwaith effeithlon ac yn cynnwys ardaloedd cynhyrchu a pharatoi ar wahân. Ceir pwyntiau mynediad rheoledig, paneli gwylio mewnol, a mannau newid a phontio staff. Mae mesurau hylendid yn cynnwys rhwystrau cam-dros a chyfleusterau golchi a glanhau.

Mae’r eiddo hefyd yn elwa o ddrws llwytho rholio a gofod ategol.

Mae llawr mezzanine wedi’i osod yn yr uned. Nid yw wedi’i gymeradwyo o dan Reoliadau Adeiladu ac ar hyn o bryd mae wedi’i gyfyngu i ddefnydd cynnal a chadw yn unig. Nid yw wedi’i gynnwys yn yr arwynebedd rhentadwy nac yn y rhent.

Bydd y Cyngor yn ystyried rhoi caniatâd landlord ar gyfer gwaith i’r mezzanine, yn amodol ar gael yr holl ganiatadau statudol angenrheidiol a chytuno ar Drwydded ar gyfer Addasiadau.

Gwasnaethau

Mae’r uned wedi’i chysylltu i ddŵr prif gyflenwad, trydan tair gwedd a draeniad. Dylai partïon sicrhau bod y gwasanaethau yn addas ar gyfer eu defnydd.

EPC

Maer tystysgrif perfformiad ynni wedi ei gofrestru yn (A)                                                   

Telerau'r brydles

  • Prydles warchodedig 3 blynedd o dan Ddeddf Landlord a Thenant 1954
  • Rhent yn daladwy’n fisol ymlaen llaw
  • Rhent Canllaw: £16,000 - £20,000 y flwyddyn, gan gynnwys TAW. Gwahoddir cynigion rhent a byddant yn cael eu hystyried fel rhan o'r broses ymgeisio.
  • Rhaid talu pob taliad rhent drwy Ddebyd Uniongyrchol
  • Tenant yn gyfrifol am gynnal a chadw mewnol
  • Ffi paratoi prydles yn daladwy gan y tenant (tua £699.37 + TAW)
  • Blaendal rhent sy’n hafal i chwe mis o rent yn ofynnol, i’w gadw drwy weithred blaendal rhent. Mae hyn ar wahân i’r taliad rhent cyntaf

Ceisiadau

Mae’r uned ar gael yn amodol ar gais llwyddiannus. Bydd angen darparu cyfeirnod banc, dau gyfeirnod masnach, cynllun busnes a bydd gwiriadau credyd yn cael eu cynnal.

Mynegi diddordeb a gweld yr eiddo

I fynegi diddordeb neu i drefnu ymweliad, cysylltwch â:

Cyngor Sir Ynys Môn – Adain Eiddo
Ffôn: 01248 752245 / 752250
E-bost: YmholiadauEiddo@ynysmon.llyw.cymru

Dim ond drwy apwyntiad y gellir gweld yr eiddo.

Nodyn pwysig

  1.  Nid yw'r manylion hyn yn rhan o unrhyw gynnig na chontract.
  2. Mae'r holl ddisgrifiadau, ffotograffau a chynlluniau ar gyfer arweiniad yn unig ac ni ddylid dibynnu arnynt fel datganiadau neu gynrychioliadau o ffaith. Mae'r holl ardaloedd, mesuriadau neu bellteroedd yn rhai bras. Mae'r testun, y ffotograffau a'r cynlluniau ar gyfer arweiniad yn unig ac nid ydynt o reidrwydd yn gynhwysfawr. Rhaid i unrhyw ddarpar brynwr fodloni ei hun ar gywirdeb y wybodaeth yn y manylion trwy archwiliad neu fel arall. Ni ddylid cymryd yn ganiataol bod gan yr eiddo'r holl hawliau cynllunio, rheoliadau adeiladu neu gydsyniadau eraill angenrheidiol. Nid yw Cyngor Sir Ynys Môn (“CSYM”) wedi profi unrhyw gyfarpar, offer, gosodiadau, ffitiadau na gwasanaethau ac nid ydynt wedi gwirio eu bod yn gweithio'n iawn, yn addas at eu diben, nac o fewn perchnogaeth y cyngor.
  3.  Nid yw CSYM yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw gostau darpar brynwyr wrth archwilio eiddo sydd wedi'u gwerthu, eu gosod neu eu tynnu'n ôl.
  4.  Oni ddywedir yn wahanol, nid yw'r prisiau a'r rhenti a ddyfynnir yn cynnwys TAW. Yn amodol ar gontract.
  5. Os oes unrhyw beth o bwys arbennig i chi, cysylltwch ag Adain Eiddo CSYM a byddwn yn ceisio gwirio'r wybodaeth ar eich rhan.
Efallai na fydd y ffeil yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.