Cyngor Sir Ynys Môn

Uned 10, stad ddiwydiannol Pen yr Orsedd, Llangefni, LL77 7AW


Rhent canllaw

£13,000 + TAW y flwyddyn

Nodweddion

  • Lleoliad rhagorol o fewn ardal ddiwydiannol sefydledig Llangefni
  • Tua 200.10 m² / 2,153.90 tr² Arwynebedd Mewnol Gros
  • Mynediad rhagorol i Wibffordd Gogledd Cymru yr A55
  • Pwyntiau gwefru cerbydau trydan ar y safle
  • Prydles warchodedig o dan Ddeddf Landlord a Thenant 1954
  • Prydles hyblyg gyda chymal terfynu 3 mis i’r tenant

Disgrifiad o’r eiddo

Mae Uned 10 yn rhan o ddatblygiad busnes modern o fewn Ystâd Ddiwydiannol boblogaidd Pen yr Orsedd. Ceir mynediad drwy'r Ffordd Gyswllt newydd i Langefni, sy'n gwella cysylltedd a gwelededd.

Mae’r ardal gyfagos yn ganolfan fasnachol fywiog sy’n gartref i fusnesau cenedlaethol a rhanbarthol gan gynnwys Ford, Screwfix, Huws Gray (Pencadlys), Howdens, Aldi, Lidl a Chanolfan Fusnes Ynys Môn. Mae Heddlu Gogledd Cymru hefyd yn gweithredu o’r cyffiniau.

Manylion yr uned

Mae uned 10 yn cynnwys:

  • swyddfa benodol
  • toiled hygyrch
  • gweithdy eang
  • drws adrannol trydan.

Mae gan yr uned ganiatâd cynllunio ar gyfer defnyddiau B1 (Busnes), B2 (Diwydiannol Cyffredinol) a B8 (Storio a Dosbarthu).

Cyfarwyddiadau

O Gyffordd 6 yr A55, dilynwch yr arwyddion am Langefni (B5114). Cymerwch yr allanfa gyntaf wrth gylchfan Parc Bryn Cefni a pharhewch am hanner milltir. Yna trowch i'r chwith gyferbyn â Swyddfeydd Huws Gray ar ôl pasio Jewson ar eich chwith.

Gwasanaethau

Mae’r eiddo wedi’i gysylltu â chyflenwad dŵr y prif gyflenwad, trydan tri cham a draeniad y prif gyflenwad. Dylai darpar denantiaid sicrhau bod capasiti’r gwasanaethau yn addas ar gyfer eu gofynion gweithredol.

EPC

Mae’r dystysgrif perfformiad ynni wedi’i chofrestru fel (A)

Telerau’r brydles

  • Prydles warchodedig 3 blynedd (Deddf Landlord a Thenant 1954)
  • Rhent yn daladwy'n fisol ymlaen llaw
  • Y tenant yn gyfrifol am gynnal a chadw mewnol
  • Ffi paratoi prydles: £651.99 + TAW (yn daladwy gan y tenant)
  • Blaendal sy’n cyfateb i chwe mis o rent (i’w ddal dan weithred blaendal; ar wahân i’r taliad rhent cychwynnol)

Cais

Mae’r uned ar gael yn amodol ar gais llwyddiannus. Bydd gofyn i ymgeiswyr ddarparu geirda banc, dau eirda masnach, cynllun busnes a byddant yn destun gwiriadau credyd.

Mynegi diddordeb a threfnu ymweliad

I fynegi eich diddordeb neu i drefnu ymweliad, cysylltwch â Adran Eiddo.

Ffôn: 01248 752245 / 752250
E-bost: YmholiadauEiddo@ynysmon.llyw.cymru

Drwy apwyntiad yn unig y gellir ymweld â’r eiddo.

Rhybudd pwysig

  1. Nid yw’r manylion hyn yn ffurfio unrhyw ran o gynnig na chontract.
  2. Mae’r holl ddisgrifiadau, ffotograffau a chynlluniau er gwybodaeth yn unig ac ni ddylid dibynnu arnynt fel datganiadau neu sylwadau o ffaith. Mae pob arwynebedd, mesuriad neu bellter yn rhai bras. Mae’r testun, ffotograffau a chynlluniau er gwybodaeth yn unig ac nid ydynt o reidrwydd yn gynhwysfawr. Rhaid i unrhyw ddarpar denant fodloni ei hun ynghylch cywirdeb yr wybodaeth a geir yn y manylion hyn drwy archwiliad neu fel arall. Ni ddylid tybio bod gan yr eiddo yr holl ganiatadau cynllunio, rheoliadau adeiladu neu ganiatadau eraill angenrheidiol. Nid yw Cyngor Sir Ynys Môn ("CSYM") wedi profi unrhyw beiriannau, offer, gosodiadau, ffitiadau na gwasanaethau nac wedi gwirio eu bod mewn cyflwr gweithio, yn addas at eu diben nac o fewn perchnogaeth y Cyngor.
  3. Nid yw CSYM yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw gostau a dynnir gan ddarpar denantiaid wrth archwilio eiddo sydd wedi’i osod neu ei dynnu’n ôl.
  4. Oni nodir yn wahanol, mae’r holl brisiau a rhenti wedi’u dyfynnu heb gynnwys TAW. Yn amodol ar gontract.
  5. Os oes unrhyw beth o bwys arbennig i chi, cysylltwch ag Adran Eiddo CSYM a byddwn yn ceisio sicrhau bod yr wybodaeth yn cael ei gwirio ar eich rhan.
Efallai na fydd y ffeil yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.