Cyngor Sir Ynys Môn

Siop 3 Sgwâr y Farchnad, Biwmares, LL58 8AJ


Siop-shop-3-llun-image copy

Rhent blynyddol  

£7,000  

Nodweddion

  • Wedi'i leoli ar ymyl canol tref brysur
  • Arwynebedd llawr mewnol net yn gwneud cyfanswm o 43m² (462 troedfedd sgwâr) neu oddeutu hynny
  • Yn addas ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau manwerthu o fewn y dosbarth defnyddiwr A1
  • Les warchodedig o dan Ddeddf Landlord a Thenant
  • Les hyblyg chymal torri tenant 3 mis

Disgrifiad

Uned fanwerthu ar y llawr gwaelod yw'r eiddo, wedi'i lleoli yn Sgwâr y Farchnad, Biwmares - lleoliad masnachu poblogaidd yng nghanol y dref gyda chwrt bywiog o fasnachwyr annibynnol ychydig oddi ar y stryd fawr.

Mae'r arwynebedd mewnol net yn fras yn 43m² (462 troedfedd sgwâr). Mae'r llety'n cynnwys ardal fanwerthu flaen, ystafell storio gefn, cegin fach gyda chypyrddau storio a thoiled.

Mae ein Hadran Gynllunio yn ein hysbysu bod y defnydd cynllunio sefydledig yn dod o fewn dosbarth A1 (Siopau). Bydd prydles atgyweirio ac yswirio mewnol ar gael.

Gwasanaethau

Rydym yn deall bod yr eiddo ar hyn o bryd yn elwa o brif gyflenwad trydan, dŵr a draeniad.

Dylai partïon â diddordeb ofyn am eglurhad bod darpariaethau gwasanaeth yn addas ar gyfer eu defnydd arfaethedig eu hunain

EPC

Maer tystysgrif perfformiad ynni wedi ei gofrestru yn (E)                                                                

Telerau prydles

  • Brydles warchodedig 3 blynedd (Deddf Landlord a Thenant 1954)
  • Rhent misol yn daladwy ymlaen llaw
  • Tenant yn gyfrifol am gynnal a chadw mewnol
  • Ffi paratoi prydles: £699.37 + TAW (cyfrifoldeb y tenant)
  • Blaendal diogelwch sy'n cyfateb i chwe mis o rent (a gadwir o dan weithred blaendal; ar wahân i'r taliad rhent cychwynnol)

Gwneud cais

Mae'r eiddo ar gael i'w gosod, yn amodol ar gais llwyddiannus, a fydd yn cynnwys darparu cyfeirnod banc, dau gyfeirnod masnach, cynllun busnes a gwiriad cyfeirnod credyd

Gweld yr eiddo                   

I fynegi eich diddordeb, cysylltwch ag Adain Eiddo Cyngor Sir Ynys Môn ar 01248 752245 / 752250 neu YmholiadauEiddo@ynysmon.llyw.cymru.

Dim ond trwy apwyntiad yn unig y gellir gwylio.

Nodyn pwysig

  1. Nid yw'r manylion hyn yn rhan o unrhyw gynnig na chontract.
  2. Mae'r holl ddisgrifiadau, ffotograffau a chynlluniau ar gyfer arweiniad yn unig ac ni ddylid dibynnu arnynt fel datganiadau neu gynrychioliadau o ffaith. Mae'r holl ardaloedd, mesuriadau neu bellteroedd yn rhai bras. Mae'r testun, y ffotograffau a'r cynlluniau ar gyfer arweiniad yn unig ac nid ydynt o reidrwydd yn gynhwysfawr. Rhaid i unrhyw ddarpar brynwr fodloni ei hun ar gywirdeb y wybodaeth yn y manylion trwy archwiliad neu fel arall. Ni ddylid cymryd yn ganiataol bod gan yr eiddo'r holl hawliau cynllunio, rheoliadau adeiladu neu gydsyniadau eraill angenrheidiol. Nid yw Cyngor Sir Ynys Môn (“CSYM”) wedi profi unrhyw gyfarpar, offer, gosodiadau, ffitiadau na gwasanaethau ac nid ydynt wedi gwirio eu bod yn gweithio'n iawn, yn addas at eu diben, nac o fewn perchnogaeth y Cyngor.
  3. Nid yw CSYM yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw gostau darpar brynwyr wrth archwilio eiddo sydd wedi'u gwerthu, eu gosod neu eu tynnu'n ôl.
  4. Oni ddywedir yn wahanol, nid yw'r prisiau a'r rhenti a ddyfynnir yn cynnwys TAW. Yn amodol ar gontract.
  5. Os oes unrhyw beth o bwys arbennig i chi, cysylltwch ag Adain Eiddo CSYM a byddwn yn ceisio gwirio'r wybodaeth ar eich rhan.
Efallai na fydd y ffeil yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.