Cyngor Sir Ynys Môn

Mast telathrebu Penmynydd: gwahodd cynigion


Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn gwahodd ceisiadau am les mast telathrebu ym Mhenmynydd.

Nodweddion

  • Mast telathrebu delltog dur gweithredol 45.8 m.
  • Yn addas ar gyfer gweithredwyr telathrebu sy’n ceisio lleoliad gwledig strategol.
  • Ffafrir llesddeiliad sengl, sy’n gyfrifol am reoli’r trefniadau isod.
  • Strwythur presennol i dderbyn offer telathrebu, gwasanaethau darlledu, neu weithdrefnau cyffelyb. 

Disgrifiad

Ceir mynediad at y strwythur drwy’r briffordd sydd oddeutu 580m o’r B5420 drwy Penmynydd. Mae’r safle gwledig, 29m x 29.3m (oddeutu 850 medr sgwâr), eisoes mewn man uwch gyda golygfeydd i bob cyfeiriad dros y rhan fwyaf o Ynys Môn ac arfordir gogledd Cymru o Landudno i Ben Llŷn.

Mae’r safle wedi’i amgylchynu ar dair ochr gyda ffensys amaethyddol, a chlawdd cerrig a phridd o gyfeiriad y briffordd. Mae giât amaethyddol 4m o hyd yn darparu mynediad o’r ffordd.

Codwyd y mast delltog dur 45.8m o uchder yn wreiddiol yn 2002 ar sylfaen goncrid, ac mae’n cynnwys cabinet a chynhwysydd storio. 

Telerau prydlesu

Argymhellir cytundeb prydles o 99 mlynedd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn talu premiwm cychwynnol ar gyfer rhent hedyn pupur parhaus ar gyfer cyfnod y brydles. 

Bydd y tenant yn gyfrifol am:

  • Atgyweirio a chynnal a chadw’r mast a seilwaith cysylltiedig.
  • Rheoli is-denantiaethau (os yn berthnasol).
  • Cydymffurfio gyda’r holl ofynion statudol a gweithredol perthnasol. 

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am y ffi gyfreithiol ar gyfer paratoi’r brydles, fydd oddeutu £613.50. 

Darpariaeth gymunedol

Ar hyn o bryd, Môn FM gyda defnydd o’r safle, sef gorsaf radio gymunedol leol. Bydd angen i’r lles-ddeiliad sicrhau bod gan Môn FM fynediad at y mast yn y dyfodol, heb orfod talu unrhyw rent. Mae hyn yn cynnwys mynediad at seilwaith presennol ar gyfer anghenion gweithredol. 

Mae’r cynnig hwn yn cydymffurfio gydag amcanion y cyngor i hyrwyddo datblygiad economaidd lleol a chydlyniant cymunedol wrth gefnogi twf seilwaith telathrebu. 

Cais

Gwahoddir pawb sydd â diddordeb i gyflwyno cynigion dan sêl am dendr mewn perthynas â’r premiwm maent yn fodlon ei dalu. Bydd dogfennau cyfreithiol a gwybodaeth diwydrwydd dyladwy ar gael i bawb sydd ar y rhestr fer. 

Ymweld â’r safle a mynegi diddordeb

Rhaid gwneud apwyntiad i gael ymweld â’r safle. Dylai pawb sydd eisiau mynegi diddordeb wneud hynny dryw gysylltu ag Adran Eiddo’r Cyngor drwy ffonio 01248 752 245, neu drwy anfon neges e-bost at YmholiadauEiddo@ynysmon.llyw.cymru 

Ymwadiad

Yn unol â Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg (2008), gwnaed pob ymdrech i sicrhau cywirdeb y wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y manylion hyn. Fodd bynnag, ni ddylai unrhyw un sydd â diddordeb ddibynnu’n llwyr ar y manylion a ddarperir oherwydd mai canllawiau yn unig ydynt.

Darperir mesuriadau, ffiniau, disgrifiadau ac unrhyw fanylion eraill drwy ewyllys da, ond gallent fod yn destun gwallau, esgeulustra neu newidiadau. Cynghorir darpar brynwyr neu denantiaid i gyflawni eu diwydrwydd dyladwy eu hunain a cheisio cyngor proffesiynol annibynnol cyn llofnodi unrhyw gytundeb. Nid yw’r gwerthwr, neu asiant yn gyfrifol am unrhyw anghywirdeb. Oni bai y nodir fel arall, mae’r holl brisiau a rhent wedi’u hamcangyfrif ac eithrio TAW.

Yn amodol ar gontract.

Penmynydd mast

Efallai na fydd y ffeil yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.