Gallwn ddarparu gwybodaeth chwiliadau ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno prynu eiddo neu dir o fewn ardal yr awdurdod lleol.
Mae’r chwiliad yn gyfres o gwestiynau safonol wedi eu dylunio i roi cymaint o wybodaeth â phosib i’r darpar brynwr am yr eiddo neu dir.
Fel arfer, twrnai neu drosglwyddwr trwyddedig sydd yn gofyn am chwiliad.
Math o chwiliad
Mae 3 math gwahanol o chwiliad:
Ffurflen LLC1
Gwybodaeth a restrir ar y Gofrestr Pridiannau Tir Lleol a ddatgelir yn y ffurflen LLC1. Bydd yn nodi os oes ffioedd ariannol yn ddyledus, yn ogystal â manylion am unrhyw orchmynion torri coed, grantiau adnewyddu, cadwraeth ac adeiladau rhestredig ac ati.
Ffurflen Con29
Holiadur am y tir / eiddo wedi’i anfon i adrannau amrywiol o fewn y Cyngor yw chwiliad Con29.
Mae Rhan 1 yn rhoi atebion i gyfres o gwestiynau safonol am y eiddo ac yn nodi manylion am unrhyw gynlluniau lleol ar gyfer yr ardal, rheoliadau adeiladu a phenderfyniadau cynllunio, cynlluniau traffig, cytundebau ffyrdd ac ati.
Mae Rhan 2 yn rhoi atebion i ymholiadau ychwanegol os gofynnir rhai, er enghraifft, llwybrau cyhoeddus, hysbysiadau cwblhau ac ati.
Chwiliad personol
Gall unrhyw un gynnal chwiliad personol. Noder mai chwiliad o’r Gofrestr Pridiannau Tir Lleol yn unig yw hwn ac nid yw’n cynnwys y rhan fwyaf o’r wybodaeth sy’n cael ei amlinellu yn y LLC1 a’r CON29.
Os am wneud chwiliad personol, cysylltwch â ni am ragor o fanylion.
Gweler y manylion cyswllt ar y tudalen hwn.
Sut mae cyflwyno chwiliad LLC1 a CON29?
Ar-lein
NLIS (Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Cenedlaethol) - ar gael yn Saesneg yn unig
Drwy'r ebost
landcharges@ynysmon.llyw.cymru
Drwy’r post
Yr Uned Chwiliadau Lleol
Yr Adran Gyfreithiol
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
LL77 7TW
Ffôn: 01248 752 044
Wrth gyflwyno chwiliad, bydd angen cynnwys:
- Copïau gwreiddiol a dyblygiadau o ddogfennau chwiliadau LLC1 a Con29.(nid oes angen eu gyrru’n ddyblyg drwy e-bost)|
- 2 gopi o’r Cynllun Arolwg Ordnans gyda’r holl eiddo i’w chwilio i’w amlinellu’n eglur mewn coch (1 cynllun sydd ei hangen drwy e-bost).
- Y ffi perthnasol (gweler isod).
- Mae dogfennau chwiliad LLC1 a Con29, ar gael gan unrhyw Werthwr Deunyddiau Ysgrifennu Cyfreithiol.
Ffioedd
I gael y ffioedd am chwiliadau drwy ebost neu chwiliadau personol galwch (01248) 752044 neu gyrrwch e-bost i landcharges@ynysmon.llyw.cymru
Sieciau yn daladwy i Cyngor Sir Ynys Môn (siec twrnai nid siec y client).
Byddwn yn darparu derbynebau TAW fel sy'n ofynnol gan y gyfraith.
Ein rhif TAW yw: 650 980 622
Ffioedd chwiliadau tir lleol
Mae’r amser ar gyfer dychwelyd chwiliad pridiannau tir hyd at 10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn y cais, cynllun a’r ffi cywir.
Nid yw apwyntiadau chwilio personol ar gael ar hyn o bryd. Cysylltwch â ni drwy e-bost am ragor o fanylion.