Cyngor Sir Ynys Môn

Gwaharddiad fêps untro: beth sydd angen i fusnesau ei wneud


O 1 Mehefin 2025 ymlaen, bydd yn anghyfreithlon i fusnesau werthu, cynnig gwerthu neu gael yn eu meddiant er mwyn eu gwerthu unrhyw fêps untro neu ‘tafladwy’. Mae hyn yn gymwys i’r canlynol: 

  • gwerthu ar-lein ac mewn siopau 
  • pob fêp p’un a yw’n cynnwys nicotin ai peidio 

Os oes modd ailddefnyddio fêp, byddwch chi’n dal yn cael ei werthu.   

Canllawiau yw’r rhain i fusnesau yn y diwydiant fepio yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys: 

  • mewnforwyr 
  • manwerthwyr 
  • cyfanwerthwyr 
  • gweithgynhyrchwyr cynhyrchion fepio 

Mae hyn yn cynnwys unrhyw siop neu fusnes sy’n gwerthu fêps untro, megis: 

  • siop gyfleustra 
  • stondin farchnad 
  • gorsaf betrol 
  • siop fêps arbenigol 
  • archfarchnad 

Mae cyfyngiadau’r gwaharddiad yn gyson ar draws y pedair gwlad. Ond, mae’r hyn sy’n digwydd os byddwch chi’n torri’r gwaharddiad yn perthyn yn benodol i’r wlad mae eich busnes wedi’i lleoli ynddi.  

Ewch i wefan GOV.UK am ganllawiau