Cyngor Sir Ynys Môn

Ffliw adar


Mae Parth Atal Ffliw Adar (AIPZ) wedi ddirymu ar y 4 Mehefin 2026.

Mae’r risg i iechyd y cyhoedd o’r feirws yn isel iawn.

Mae cig wedi ei goginio’n iawn a chynnyrch fel wyau yn saff i’w bwyta. 

Sut i adrodd am achosion

Peidiwch a chyffwrdd na chodi unrhyw adar sâl neu farw ond rhowch wybod i Defra.

Diweddariadau

Adnabod y risg ddiweddaraf i'ch dofednod a'ch adar anwes a'r camau y mae'n ofynnol i chi eu cymryd.

Diweddariad diweddaraf gan Lywodraeth Cymru - bydd y ddolen yn agor tab newydd

Arwyddion clinigol

Efallai y bydd yr arwyddion clinigol a ganlyn yn bresennol:

  • pen wedi chwyddo
  • afliwiad glas ar y gwddf
  • colli’r awydd i fwyta
  • trafferthion anadlu megis: pig ar agor, peswch/tisian, gyrglo
  • dolur rhydd
  • dodwy llai o wyau
  • mwy o farwolaethau

Cofrestru dofednod ac adar hela

Dylech gofrestru eich dofednod, hyd yn oes os ydynt yn cael eu cadw fel anifeiliaid anwes, fel y gall yr Asiantaeth Anifeiliaid a Phlanhigion gysylltu â chi yn ystod achos o ffliw adar. Mae hyn yn ofyn cyfreithiol os oes gennych 50 neu fwy o adar. 

Mae dofednod yn cynnwys ieir, hwyaid, tyrcïod, gwyddau, colomennod, soflieir, ieir gini a ffesantod.

Dofednod (gan gynnwys adar hela): rheolau a ffurflenni cofrestru

Cyngor bioddiogelwch

Anogir pob ceidwad adar i gynnal lefelau bioddiogelwch uchel; pa un ai ydych yn cadw ychydig o adar anwes, neu os oes gennych haid fasnachol fawr.

Ewch i wefan LLYW.CYMRU am cyngor am fioddiogelwch a hylendid