Cyngor Sir Ynys Môn

Labelu bwyd PPDS


Cyflwyniad i newidadau labelu alergenau (PPDS)

Mae'n bosib eich bod wedi clywed am y rheolau labelu bwyd newydd y gallai fod yn ofynnol ichi eu cyflwyno yn eich busnes erbyn mis Hydref 2021.

Rydym yn anfon e-bost atoch oherwydd ein bod am ichi allu cydymffurfio â'r gyfraith newydd pan ddaw i rym, os yw'n berthnasol i’ch busnes.

O 1 Hydref, mae'n rhaid i fusnesau bwyd allu darparu rhestr gywir o gynhwysion, gan gynnwys alergeddau, ar ddeunydd pacio’r holl fwyd sydd wedi’i 'ragbecynnu i’w werthu’n uniongyrchol'. 

Os ydych yn ateb ydy i bob un o'r pedwar cwestiwn isod, rydych yn 'rhagbecynnu bwyd i’w werthu’n uniongyrchol'. 

  1. A yw'r defnyddiwr yn dewis neu’n archebu bwyd wyneb yn wyneb yn y lleoliad?
  2. A yw'r bwyd wedi'i bacio cyn i'r defnyddiwr ei ddewis neu'i archebu?
  3. A yw'r bwyd yn cael ei gyflwyno i'r defnyddiwr mewn deunydd pacio?
  4. A yw'r bwyd wedi'i bacio yn yr un lle ag y mae'n cael ei werthu? Mae hyn yn cynnwys bwyd wedi'i bacio gan yr un busnes bwyd a'i werthu ar safle dros dro neu symudol, megis wagen fwyd neu stondin farchna

Y gyfraith

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cynhyrchu cyngor am y ddeddf labelu newydd, sydd ar gael ar ei gwefan

Hyfforddiant ar-lein am ddim

Mae hyfforddiant ar-lein am ddim ar gael. Yr ydym yn meddwl y bydd pob busnes bwyd yn ei weld yn ddefnyddiol, p'un a yw'r newidiadau deddfwriaethol yn cael effaith ar eich busnes ai peidio. 

Hyfforddiant alergedd ac anoddefiad bwyd gan Asiantaeth Safonau Bwyd 

Gweminar labelu bwyd PPDS ar gyfer busnesau bwyd yn y Deyrnas Unedig gan Asiantaeth Safonau Bwyd

Food allergen resource from the Chartered Trading Standards Institute (yn Saesneg)

Rydym yn gobeithio y bydd yr arweiniad yn cynnwys y gwybodaeth sydd ei hangen arnoch. Fodd bynnag, os hoffech gael cymorth neu gyngor pellach, cysylltwch â ni ar safonaumasnach@ynysmon.gov.uk.