Cyngor Sir Ynys Môn

Cynllun sgorio hylendid bwyd


Mae'r cynllun hwn yn eich helpu i ddewis ble i fwyta allan neu brynu bwyd drwy roi gwybodaeth glir i chi am safonau hylendid y busnesau. 

Chwilio am sgoriau hylendid bwyd

System sgorio

Mae'r cynllun yn rhoi sgôr rhwng 5 i 0 i fusnesau a gaiff ei harddangos yn ffenestri siopau neu ar-lein er mwyn i chi allu gwneud dewisiadau gwybodus o ran ble i brynu neu fwyta bwyd.

Lefel y gydymffurfiaeth sydd yn pennu Sgôr Hylendid Bwyd busnes, sy'n amrywio o’r sgôr isaf '0' - Angen gwelliant ar frys i'r radd uchaf '5' - Da iawn. Mae busnes yn cael un o'r sgoriau hyn:  

Dylai pob busnes fod yn gallu cyrraedd y sgôr uchaf o 5. Er mwyn cael y sgôr uchaf, sef '5', mae'n rhaid i fusnesau wneud yn dda ym mhob un o’r tair elfen.  Mae’n debygol bod y rhai sydd â sgôr o '0' yn perfformio'n wael ym mhob un o’r tair elfen ac maent yn debygol o fod â hanes o broblemau difrifol.  

Pan na fydd busnes yn cyrraedd y sgôr uchaf, bydd y swyddog diogelwch bwyd yn esbonio i  berchennog neu reolwr y busnes pa welliannau sydd eu hangen. 

Caiff sgôr newydd ei rhoi bob tro y bydd y busnes yn cael ei arolygu gan swyddog diogelwch bwyd o awdurdod lleol y busnes.

Mae amlder yr arolygiadau hyn yn dibynnu ar y risg posibl i iechyd y cyhoedd, fel y cafodd ei asesu yn yr arolygiad diwethaf.

Mae'r asesiad yn dibynnu ar:

  • y math o fwyd sy'n cael ei drin
  • nifer y cwsmeriaid
  • y math o brosesau a gynhelir cyn i'r bwyd gael ei werthu neu ei weini 
  • y safonau hylendid a welir ar y diwrnod

I ganolbwyntio ar fusnesau sydd â safonau hylendid is, mae pob awdurdod lleol yn cynllunio rhaglen o arolygiadau bob blwyddyn.

Mae pob awdurdod lleol yn gyfrifol am nifer amrywiol o fusnesau bwyd felly mae'r rhaglen wedi'i dylunio i sicrhau eu bod yn arolygu ac yn sgorio'r safleoedd bwyd sy'n peri'r risg fwyaf i iechyd pobl yn amlach. 

Rhwng arolygiadau, gall awdurdodau lleol hefyd fonitro busnesau mewn ffyrdd eraill i sicrhau eu bod yn cynnal safonau hylendid ar bob adeg. Os yw'r gwiriadau hyn yn datgelu unrhyw beth a allai nodi bod safonau hylendid wedi gwaethygu, bydd y swyddog yn cynnal arolygiad a bydd y busnes yn cael sgôr newydd.

Os bydd yr awdurdod lleol yn derbyn cwyn neu wybodaeth newydd am fusnes nad yw ar yr amserlen arolygu, ac mae'n awgrymu nad yw safonau hylendid yn cael eu cynnal, bydd yr awdurdod lleol yn ymchwilio i hyn, ac fe all arolygu'r busnes a rhoi sgôr hylendid newydd iddo.

Proses apelio

Os nad ydych chi’n credu fod statws eich busnes yn deg neu os ydych yn dymuno trafod eich statws, cysylltwch â'r swyddog a wnaeth yr arolygiad yn y lle cyntaf.

Mae'n rhaid apelio o fewn 21 diwrnod ar ôl i’r busnes dderbyn yr adroddiad arolygu hylendid bwyd.

Dylid anfon y ffurflen apêl wedi'i llenwi at y Prif Swyddog Iechyd yr Amgylchedd (Bwyd).

Bydd yr apêl yn cael ei hystyried gan swyddog o'r awdurdod, nad oedd yn rhan o asesiad gwreiddiol y sgôr hylendid bwyd sy’n cael ei apelio. Bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu ynglŷn â’r apêl a rhoi gwybod i’r busnes ynglŷn â’r canlyniad o fewn 21 niwrnod i dderbyn yr apêl.

Yn ystod cyfnod y broses apelio, ni ddylai unrhyw sticer gael ei arddangos ac ni ddylid cyfeirio ato mewn unrhyw ddeunydd hysbysebu, ar y wefan ac ati.

Apeliwch yn erbyn eich sgôr - mae'r ddolen yn agor mewn tab newydd.

Agorwch y ffurflen gan ddefnyddio porwr gwe â gefnogwyd fel Safari, Google Chrome, Microsoft Edge neu Firefox.

Fel gweithredwr busnes bwyd y sefydliad, mae gennych ‘hawl i ymateb’ o dan Adran 11 o Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013, mewn perthynas â’r sgôr hylendid a roddwyd i chi ar ôl i’ch sefydliad gael ei arolygu. Gallwch arfer yr hawl hwn ar unrhyw adeg tra bo’r sgôr yn ddilys

Pwrpas yr ‘hawl i ymateb’ yw rhoi cyfle i chi egluro’r camau yr ydych chi wedi’u cymryd yn sgil yr arolygiad i gyflwyno’r gwelliannau gofynnol a nodir yn y llythyr arolygu, neu egluro unrhyw amgylchiadau lliniarol a oedd ar waith adeg yr arolygiad. Ni fwriedir i’r ffurflen fod yn gyfrwng i chi feirniadu na chwyno am y cynllun sgorio neu’r swyddog diogelwch bwyd a gynhaliodd yr arolygiad.

Hawl i ymateb - mae'r ddolen yn agor mewn tab newydd.

Agorwch y ffurflen gan ddefnyddio porwr gwe â gefnogwyd fel Safari, Google Chrome, Microsoft Edge neu Firefox.

Fel gweithredwr busnes bwyd y sefydliad, gallwch chi ofyn i'ch sgôr newydd gael ei chyhoeddi ar wefan sgoriau hylendid bwyd cyn i'r cyfnod y mae modd apelio yn erbyn y sgôr ddod i ben.

Cais i gyhoeddi sgôr yn gynnar - mae'r ddolen yn agor mewn tab newydd.

Agorwch y ffurflen gan ddefnyddio porwr gwe â gefnogwyd fel Safari, Google Chrome, Microsoft Edge neu Firefox.

Fel gweithredwr busnes bwyd mae gennych hawl, o dan adran 12 o Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013, i wneud cais ar unrhyw adeg am arolygiad at y diben oailsgorio, ar yr amod eich bod wedi talu costau rhesymol yr ailsgorio yn unol ag adran 13 o Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 (oni fydd yr awdurdod bwyd wedi ymatalrhag gofyn am dalu‘r costau hynny ymlaen llaw – fel y darperir ar ei gyfer yn adran 12(6)o‘r Ddeddf, ac os felly, ceir talu‘r costau ar ôl cwblhau‘r arolygiad ailsgorio) ac os bodlonir hefyd yr amodau canlynol:

  • bod unrhyw apêl yn erbyn y sgôr hylendid bwyd bresennol wedi ei phenderfynu
  • eich bod wedi hysbysu‘r awdurdod bwyd y gwnaed gwelliannau yn safonau hylendid ysefydliad
  • bod yr awdurdod bwyd o‘r farn y byddai‘n rhesymol arolygu ac asesu‘r sefydliad ymhellach oherwydd y gwelliannau yr honnir eu bod wedi‘u gwneud
  • bod y sticer sgôr hylendid bwyd cyfredol yn cael ei arddangos yn eich sefydliad yn unolâ gofynion adran 7 o Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 a rheoliad 9 oReoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013
  • eich bod wedi cytuno i sicrhau y caniateir mynediad i‘r awdurdod bwyd i gynnalarolygiad o‘r sefydliad at y diben o ailsgorio

Bydd swyddog yr awdurdod lleol yn rhoi ichi sgôr hylendid bwyd newydd, ar sail y lefel ogydymffurfiaeth a ganfyddir ar adeg yr ail ymweliad.

Gallai eich sgôr fynd i fyny, i lawr neu aros yr un fath.

I wneud cais am ail ymweliad, defnyddiwch ein ffurflen ar-lein.

Gwneir yr ail ymweliad o fewn 3 mis ar ôl gwneud y cais, ac fel rheol ni roddir rhybuddymlaen llaw.

Ar ôl i chi gyflwyno eich cais a ninnau gychwyn ei brosesu, ni fydd modd i chi gael addaliado’r ffi.

Cais am arolygiad ailsgorio - mae'r ddolen yn agor mewn tab newydd.

Agorwch y ffurflen gan ddefnyddio porwr gwe â gefnogwyd fel Safari, Google Chrome, Microsoft Edge neu Firefox.