A oes angen cymeradwyaeth arnaf?
Bydd eich busnes bwyd angen cymeradwyaeth, (Approval), os ydych yn bwriadu defnyddio "cynhyrchion heb eu prosesu sy'n dod o anifeiliaid" e.e. cig ffres, briwgig amrwd, llaeth amrwd, wyau, i gynhyrchu unrhyw un, neu gyfuniad o'r canlynol:
- Briwgig a pharatoadau cig.
- Cynhyrchion cig a chig wedi'i wahanu'n fecanyddol.
- Molysgiaid bi-falf byw a chynhyrchion pysgodfeydd.
- Llaeth amrwd (ac eithrio llaeth amrwd gwartheg).
- Cynnyrch llefrith.
- Wyau (nid cynhyrchu sylfaenol).
- Cynhyrchion wyau.
- Storfeydd oer a marchnadoedd cyfanwerthu.
- Coesau llyffantod a malwod.
- Brasterau anifeiliaid a choesarnau wedi’u rendro.
- Stumogau, pledrennau a choluddion wedi’u trin.
- Gelatin a cholagen.
Mwy o wybodaeth ar y broses cymeradwyo
Eithriadau
Os yw eich busnes yn cyflenwi bwyd sy'n dod o anifeiliaid i'r defnyddiwr olaf yn unig, h.y. y sawl sy'n bwyta'r cynnyrch bwyd, yna efallai y caiff ei eithrio rhag cymeradwyaeth, fodd bynnag, bydd angen i chi sicrhau bod eich busnes wedi'i gofrestru gyda ni.
Beth sydd angen i mi ei wneud?
Os ydych yn meddwl efallai y bydd angen cymeradwyo eich busnes bwyd arfaethedig, cysylltwch â ni i drefnu ymweliad â'ch eiddo bwriedig.
Yn ogystal â bodloni gofynion strwythurol penodol, bydd angen i’ch adeilad gael system Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol yn ei le. (HACCP)
Os yw eich busnes bwyd angen cymeradwyaeth, nid ydych yn gallu gweithredu hyd nes y bydd y gymeradwyaeth wedi'i rhoi gan yr awdurdod, a bod rhif cymeradwyo unigryw wedi’i roi, y mae'n rhaid ei gymhwyso i’r cynnyrch. Mae hefyd yn ofynnol i chi fod wedi cael hyfforddiant digonol mewn cymhwyso egwyddorion HACCP ac i chi a'ch staff fod wedi cael eich cyfarwyddo neu eich hyfforddi mewn materion hylendid bwyd i lefel sy'n briodol i'ch swyddi.