Cyngor Sir Ynys Môn

Seilwaith strategol Llangefni


Mae unedau busnes newydd a lle ychwanegol ar gyfer swyddfeydd wedi eu datblygu ym Mharth Menter Llangefni, Parc Bryn Cefni. Mae datblygiad pum uned newydd ar hen safle Hyfforddiant Môn wedi darparu dros 1,200m² o le ar gyfer swyddfeydd, mannau diwydiannol ysgafn a lle storio ar gyfer busnesau. 

Yn ogystal, mae dros 700m2 o swyddfeydd a mannau cyfarfod wedi'u datblygu yng Nghanolfan Fusnes Ynys Môn, gyda thenantiaid newydd bellach yn meddiannu'r adeilad.

Roedd y prosiect yn rhan o ymdrechion Cyngor Sir Ynys Môn i gefnogi datblygiad cefnogaeth busnes ac er mwyn creu swyddi ar yr Ynys.

Mae’r holl unedau bellach yn cynnwys busnesau lleol.

Meddai Phil Chadwick o Anglesey Brewhouse: “Mae uned 12 Pen yr Orsedd wedi ein darparu ni â’r amgylchedd perffaith er mwyn gallu cynhyrchu cwrw casgen o safon. Mae lleoliad yr uned, ger canol Llangefni a’r ffaith ei fod ar y brif ffordd sy’n ein gwneud yn weladwy, yn fantais fawr. Er ei bod wedi cymryd amser i ni adeiladu a chomisiynu’r bragdy newydd, credwn ein bod wedi cael y cychwyn gorau posibl er mwyn gallu tyfu ein busnes a chynhyrchu cwrw casgen i’w werthu’n fasnachol.” 

Lwyddodd Swyddogion Datblygiad Economaidd Ynys Môn i ddenu £4m o grant gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Lywodraeth Cymru er mwyn gallu ymgymryd â’r prosiect hwn.  

Gweler ein tudalennau eiddo i'w gosod neu eiddo ar werth ar gyfer argaeledd presennol.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ymholiadaueiddo@ynysmon.gov.uk 

Logo